Sir Fynwy: Beiciwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad

Pwllmeurig

Mae’r heddlu yn apelio am dystion ar ôl i feiciwr farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy ar 7 Gorffennaf.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng bws a’r beiciwr ar feic trydan, ar ffordd yr A48 ym Mhwllmeurig ger Casgwent tua 05:55. 

Fe gafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau oedd yn peryglu ei fywyd a bu farw yno ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y beiciwr cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu trwy'r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600215220.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.