Y Scarlets wedi arwyddo cytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru
Mae’r Scarlets wedi arwyddo Cytundeb Rygbi Proffesiynol Cymru 2025 (PRA25) gydag Undeb Rygbi Cymru.
Mae hyn yn golygu fod y pedwar tîm rhanbarthol Cymru bellach wedi arwyddo cytundeb i’r telerau a gafodd eu gosod gan URC.
Daw hyn yn dilyn mwy na flwyddyn o ddadlau rhwng y Scarlets ac URC.
Yn gynharach y mis hwn, fe gyhoeddodd y Scarlets golled o £2.1 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiweddaraf.
Mae’r Scarlets yn ymuno â’r Dreigiau, Rygbi Caerdydd, a’r Gweilch ar gytundeb fydd yn parhau tan ddechrau tymor 2028/29, pan fydd cynllun strategaeth URC i symud i fodel tri chlwb yn cael ei weithredu.
Dywedodd URC fod y cytundeb yn “cynyddu cydweithio ar draws yr ecosystem rygbi ac yn sail i berthynas waith well rhwng Undeb Rygbi Cymru a thimau proffesiynol y dynion”.
Dywedodd Abi Tierney, Prif Swyddog Gweithredol URC: “Mae'n sicrhau sefydlogrwydd ariannol i'r pedwar tîm hyd at fis Mehefin 2028 ac yn creu'r sylfeini ar gyfer llwyddiant ym mhob agwedd ar y gêm broffesiynol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.
“Mae PRA25 yn creu mwy o gydlyniad ar draws rygbi yng Nghymru, ac rwyf wrth fy modd bod pob un o’n pedwar clwb proffesiynol bellach wedi arwyddo.”
Cam sylweddol ymlaen
Dywedodd Marianne Økland, Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol: "Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen yn ein cynlluniau ar gyfer dyfodol rygbi Cymru. Mae'r ffordd gydweithredol y mae trafodaethau rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r clybiau proffesiynol wedi cael eu cynnal dros y misoedd diwethaf wedi bod yn hynod galonogol, o ystyried yr heriau yn y dyfodol sy'n wynebu ein gêm yn fyd-eang ac yng Nghymru."
Dywedodd Cadeirydd Gweithredol y Scarlets, Simon Muderack: "Mae arwyddo’r PRA25 yn garreg filltir bwysig arall wrth i ni adeiladu'r bennod nesaf yn hanes balch 150 mlynedd y Scarlets. Gyda sicrwydd am y ddwy flynedd nesaf, gallwn gyflymu'r cynnydd sylweddol sydd eisoes ar y gweill ar y cae ac oddi arno a symud ymlaen yn hyderus."
Roedd y pedwar rhanbarth yn barod i arwyddo cytundeb newydd cyn i Gaerdydd gael ei hachub rhag mynd i'r wal pan gymerodd yr WRU reolaeth ar y clwb yn 2025.
Serch hynny, arwyddodd y Dreigiau y cytundeb, ond mynnodd y Gweilch a'r Scarlets sicrwydd na fyddai ffafriaeth yn cael ei dangos tuag at Gaerdydd, yn ogystal â cheisio atebion ynghylch dyledion blaenorol.
Fe lofnododd y Gweilch y cytundeb ar 5 Mehefin.
Serch hynny mae ansicrwydd yn parhau ynghylch dyfodol hirdymor y gêm broffesiynol yng Nghymru, gan fod y cytundeb yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2027-28.