Tân Mynydd Conwy: Trigolion yn gallu dychwelyd i'w tai
Tân Mynydd Conwy: Trigolion yn gallu dychwelyd i'w tai
Mae’r gwasanaeth tân wedi dweud y bydd rhai o drigolion ardal Penmaenmawr yn cael dychwelyd i’w cartrefi, wrth i ymdrechion i ddiffodd tân gwyllt ar Fynydd Conwy gael eu lleihau.
Brynhawn ddydd Llun dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bellach bod y digwyddiad mawr a gafodd ei gyhoeddi ddydd Sul wedi dod i ben "gan fod adnoddau'n gallu rheoli lefel bresennol y tanau gwyllt ar draws y rhanbarth yn effeithiol".
Dywedodd y gwasanaeth fod y sefyllfa ar Fynydd Conwy, ger Capelulo, wedi "gwella'n sylweddol".
Dywedodd y gwasanaeth: "Mae diffoddwyr tân yn parhau ar y safle i fonitro'r amodau ac asesu unrhyw risgiau parhaus.
"Mae'n ddiogel bellach i drigolion a gafodd eu symud o'r ardal ddychwelyd i'w cartrefi.
"Mae'r ffyrdd lleol a gafodd eu cau bellach ar agor, a bydd y ganolfan loches yn parhau ar agor dros nos tan 22:00 os oes angen cymorth pellach ar drigolion.
"Hoffem ddiolch i'r holl drigolion y mae hyn wedi effeithio arnynt am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.
"Rydym yn ymwybodol y gallai rhai trigolion fod yn profi problemau gyda'r cyflenwad trydan. Mae Scottish Power Energy Networks yn gweithio i adfer y cyflenwadau cyn gynted â phosibl ac yn defnyddio generaduron lle bo angen i helpu i leihau'r tarfu.
"Mae disgwyl i'r tân barhau i fudlosgi ac y gallai achosi mwg am sawl diwrnod.
"Gofynnir i aelodau o'r cyhoedd gysylltu â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru dim ond os ydynt yn gweld fflamau neu os yw'r mwg yn mynd yn ormodol neu'n llethu'r ardal.
Ychwanegodd y gwasanaeth tân y bydd criwiau tân yn parhau yn yr ardal o amgylch Mynydd Conwy, ger Capelulo, i barhau i fonitro'r amodau ac asesu'r sefyllfa.
"Mewn mannau eraill, mae diffoddwyr tân yn parhau i ymateb i ddigwyddiadau gan gynnwys Coedwig Braichmelyn, Bethesda, ac ardal mynyddoedd y Rhinogydd ger Harlech, lle mae criwiau'n parhau i fonitro'r amodau ac asesu risgiau parhaus.
"Diolchwn i gydweithwyr yn y gwasanaethau brys a sefydliadau partner am eu cefnogaeth barhaus, sydd wedi bod yn hanfodol trwy gydol y digwyddiad hwn," meddai'r llefarydd.
Cafodd digwyddiad mawr ei ddatgan gan y Gwasanaeth Tân ac Achub ddydd Sul wrth i dân ar raddfa fawr ymledu yn ardal Bwlch Sychnant ar Fynydd Conwy.
Roedd yn rhaid i rai trigolion Capelulo, sydd yn rhan o Ddwygyfylchi, ger Penmaenmawr, adael eu cartrefi.
Cafodd canolfan loches hefyd ei sefydlu yng Nghanolfan Busnes Conwy, yng Nghyffordd Llandudno.
Mae busnesau a theuluoedd yn yr ardal hefyd wedi cynnig ystafelloedd i bobl sydd angen llety.
Roedd Ysgol Pencae ym Mhenmaenmawr ac Ysgol Capelulo ar gau ddydd Llun oherwydd y tân.
Mae Ffordd Bwlch Sychnant a Hen Ffordd Gonwy yn parhau ar gau.
Mewn diweddariad fore Llun, dywedodd y gwasanaeth tân y dylai pobl barhau i osgoi’r ardaloedd hynny.
Dywedodd llefarydd fod chwe injan dân, tri pheiriant mynediad cul, uned tanau gwyllt, uned rheoli digwyddiad a swyddogion gweithredol yn parhau yn yr ardal, yn “monitro’r amodau”.
“Mae’r digwyddiad yn parhau i gael ei reoli drwy ymateb amlasiantaethol sy’n cynnwys y gwasanaethau brys a sefydliadau partner,” meddai.
Y cyngor i drigolion yr ardal yw cadw ffenestri a drysau ar gau os yw’r mwg yn effeithio arnyn nhw, a gofyn am gyngor meddygol os ydyn nhw’n cael trafferth anadlu.
Mae mwg o’r tân hefyd wedi ymledu i Sir Fôn yn y gorllewin ac i Fae Colwyn yn y dwyrain.
Dywedodd y gwasanaeth fod diffoddwyr tân yn bresennol yng Nghoedwigaeth Braichmelyn, Bethesda, ar ôl tân gwyllt yno ddydd Sul. Maen nhw hefyd yn ailarchwilio ardaloedd Harlech a Brynffordd, ger Treffynnon.
Dywedodd y Pennaeth Atal, Jody McEachern: “Gweithiodd diffoddwyr tân yn ddiflino ddoe a thrwy’r nos yn ymateb i nifer o danau gwyllt sylweddol ledled gogledd Cymru.
“Mae gwaith sylweddol yn parhau ar Fynydd Conwy a byddwn yn parhau i fonitro’r amodau’n agos drwy gydol y dydd.
“Hoffwn ddiolch i gymunedau lleol am eu hamynedd a’u cydweithrediad, ac i’n diffoddwyr tân, staff yr Ystafell Reoli a’n hasiantaethau partner am eu cefnogaeth barhaus.”
Gwaith ‘eithriadol’
Wrth roi diweddariad i drigolion fore Llun, dywedodd y Cynghorydd Cathy Augustine mewn neges ar Facebook: “Cafodd digwyddiad mawr ei ddatgan ddoe wrth i’r gwasanaethau brys daclo’r tân gwyllt ar Fynydd Conwy. Mewn gwirionedd, maen nhw wedi bod yn delio gyda sawl tân ar wahân, sydd wedi gwneud sefyllfa anodd yn llawer mwy heriol.
“Yn ffodus, mae pawb wedi’u cadw’n saff, sef y pwynt pwysicaf i’w nodi.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2076334286962037047?s=20
Fe wnaeth y cynghorydd roi teyrnged i waith “eithriadol” y gwasanaethau brys ac i bobl, gan gynnwys y ffermwr Gareth Wyn Jones, am eu gwaith yn diogelu merlod y Carneddau.
Ychwanegodd: “Bore ’ma, mae llawer o griwiau yn dal i fod yn bresennol, gyda nifer o unedau wedi’u gwasgaru ar draws y mynydd, yn monitro ac yn brwydro yn erbyn y sefyllfa.
“Nid yw’n helpu’r sefyllfa nad oes glaw yn y rhagolygon tan ddydd Gwener, a bod y gwyntoedd yn parhau’n gryf.
“Dylai trigolion barhau i fod yn wyliadwrus. Cadwch ffenestri a drysau ar gau os ydych chi mewn ardal o fwg trwm. Bydd yr heddlu a’r gwasanaeth tân yn cysylltu’n uniongyrchol ag unrhyw eiddo sydd mewn perygl.
“Mae Cyngor Sir Conwy wedi sicrhau bod canolfan swyddogol bellach ar agor yn llawn i gynnig lloches. Mae timau o’r Adran Tai a Gofal Cymdeithasol wedi rhoi llety i bawb a oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi ac wedi gofyn am gymorth, ac wedi cynnal gwiriadau lles ac ati.”