Dyn wedi marw ‘ar ôl neidio oddi ar bont Llangollen’
Mae dyn wedi marw yn Llangollen ar ôl i lygaid dystion ddweud eu bod nhw wedi ei weld yn neidio oddi ar bont, meddai’r heddlu.
Fe aeth swyddogion yr heddlu i’r bont ar Stryd y Castell, Llangollen, am 20:16 ddydd Gwener.
Ar ôl chwilio'r afon, fe ddaethon nhw o hyd i ddyn 46 oed. Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn Wrecsam, lle bu farw yn ddiweddarach.
Mae teulu’r dyn a’r Crwner wedi cael gwybod, ac maen nhw’n parhau i ymchwilio i’r amgylchiadau.
“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r dyn ar yr adeg hon,” meddai’r Arolygydd Joseph Dunn.
“Hoffwn ddiolch i’r swyddogion, ein partneriaid yn y gwasanaethau brys, ac aelodau o’r cyhoedd a fu’n helpu am eu hymateb i’r digwyddiad hwn.
“Fel tîm plismona, rydym yn ymwybodol o bryderon diogelwch lleol ynghylch pobl yn plymio oddi ar y bont.
“Er nad yw hyn yn drosedd, byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref Llangollen a phartneriaid eraill i dynnu sylw’r cyhoedd at y peryglon.”
Bydd swyddogion hefyd yn parhau i gynghori a rhybuddio unrhyw un sy’n bwriadu neidio oddi ar y bont am y peryglon o wneud hynny, medden nhw.