Sir Benfro: Un person wedi marw a dau arall yn yr ysbyty ar ôl argyfwng meddygol ar fws

Stryd Fawr Penfro

Mae un person wedi marw a dau arall mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn argyfwng meddygol ar fws yn Sir Benfro.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad ar y Stryd Fawr yn nhref Penfro tua 17:35 ddydd Llun.

Cafodd tri pherson eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad, ond mae un ohonynt bellach wedi marw.

Mae'r ddau berson arall yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog, meddai'r heddlu.

Mae dyn 55 oed bellach wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau, ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.

Cafodd y Stryd Fawr ei chau tra roedd yr heddlu a'r gwasanaethau brys yn ymateb i'r digwyddiad, ond mae'r ffordd bellach wedi ailagor.

Mae'r heddlu wedi dechrau ymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad, ond maen nhw'n pwysleisio nad oes unrhyw berygl parhaus i'r cyhoedd.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Rydym yn diolch i'r gymuned leol am eu hamynedd wrth i'r ymholiadau barhau."

Ychwanegodd y llu y bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhyddhau pan fydd hynny'n briodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.