Sir Benfro: Tro pedol ar ymgais i ddiddymu statws eglwysig Ysgol Cilgerran
Mae Cyngor Sir Benfro wedi rhoi’r gorau i gynlluniau dadleuol i ddiddymu statws eglwysig un o ysgolion cynradd y sir.
Roedd y sir wedi bwriadu cael gwared â chysylltiad Ysgol Cilgerran â’r Eglwys yng Nghymru a’i throi i fod yn ysgol gymunedol.
Pwrpas hynny, yn ôl y cyngor, oedd sicrhau cynaliadwyedd tymor hir yr ysgol mewn ymateb i leihad sylweddol yn nifer y disgyblion yn ysgolion bro’r Preselau.
Mae ei statws eglwysig yn golygu na fyddai Ysgol Cilgerran yn gallu ymuno ag ysgolion eraill yn y cylch mewn ffederasiwn, pe bai hynny’n opsiwn ar gyfer y dyfodol.
Ond fe wnaeth y cynllun ennyn gwrthwynebiad yn lleol ac o fewn yr Eglwys, gyda rhieni yn protestio yn gynharach eleni ac Esgob Tyddewi yn dweud bod camau cyfreithiol yn opsiwn.
Roedd cyfreithwyr yr Eglwys wedi ysgrifennu at swyddogion i ddadlau bod y Cyngor Sir wedi camddehongli'r gyfraith, a na fyddan nhw yn medru cau'r ysgol eglwysig ac agor ysgol gymunedol ar yr un safle.
'Gwahaniaeth barn' am faterion cyfreithiol
Wrth gadarnhau bod y cynlluniau yn cael eu rhoi i’r neilltu ddydd Iau, dywedodd y sir y byddai bwrw ati yn wyneb gwrthwynebiad yr Eglwys “yn debygol o arwain at gyfnod estynedig o ansicrwydd i gymuned yr ysgol” wrth i wahaniaethau cyfreithiol gael eu trafod.
“Mae'n amlwg bod cefnogaeth gref o fewn y gymuned i gynnal statws Eglwys yng Nghymru yr ysgol sy'n amlwg yn yr ymateb i'r ymgynghoriad ac yn y safbwyntiau a fynegwyd gan arweinwyr ysgolion pan ymwelais â'r ysgol ym mis Medi,” meddai’r Cynghorydd Paul Miller, aelod cabinet y sir dros addysg.
“Yn ogystal â hyn, mae gwahaniaeth barn rhwng y Cyngor a'r Esgobaeth ynglŷn â goblygiadau cyfreithiol rhoi'r gorau i'r ysgol bresennol a'r trefniadau ar gyfer parhau i feddiannu'r safle.
“Gallai fod angen trafodaethau pellach a chynnal achosion cyfreithiol hir i ddatrys y materion hynny, heb unrhyw sicrwydd dros amserlenni neu ganlyniadau.
“Nid yw bwrw ymlaen dan yr amgylchiadau hyn yn gymesur â'r canlyniad yr ydym yn ei geisio a fy marn i yw na fyddai bwrw ymlaen er budd cymuned yr ysgol.”
Fe gyhoeddodd swyddogion y newid polisi ychydig ddyddiau yn ôl, ond roedd yn rhaid i’r penderfyniad gael ei gymeradwyo yn sesiwn llawn y cyngor ddydd Iau.
Diwedd 'misoedd o ansicrwydd'
Ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Esgobaeth Tyddewi eu bod “wrth ein bodd” â’r penderfyniad sy’n “dod â therfyn ar fisoedd o ansicrwydd i ddisgyblion, rhieni, staff a'r gymuned ehangach.”
“Gan fod 97% o'r rhieni a ymatebodd i'r arolwg yn cefnogi cadw statws eglwysig yr ysgol, mae penderfyniad heddiw yn enghraifft wych o leisiau cymuned yn cael eu clywed,” meddai’r Esgobaeth.
“Trwy gydol y broses hon, mae Esgobaeth Tyddewi a'r Eglwys yng Nghymru wedi sefyll ochr yn ochr â chymuned yr ysgol, gan hyrwyddo pwysigrwydd diogelu ethos Cristnogol, treftadaeth a hunaniaeth yr ysgol. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi Ysgol Cilgerran, gan gynnwys rhieni, llywodraethwyr, staff, y gymuned ehangach a'n partneriaid ledled Cymru.
“Diolchwn hefyd i Gyngor Sir Penfro am eu hymgysylltiad adeiladol ac am gyrraedd y penderfyniad cadarnhaol hwn.”
Er i'r cynllun gael ei atal, mae'r cyngor sir yn dweud yn eu datganiad bod y materion a arweiniodd at y penderfyniad cychwynnol yn parhau heb ddatrysiad.
Roedd gostyngiad o 21% ym mhoblogaeth ysgolion y Preselau rhwng 2016 a 2024 a chyfartaledd o 34% o lefydd gwag mewn saith o ysgolion cynradd lleol sydd yn bwydo Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych.
