Sir Benfro: Achos cyfreithiol yn ‘opsiwn’ dros gynllun i ddiddymu statws eglwysig Ysgol Cilgerran

Newyddion S4C
Protest Cilgerran.jpeg

Mae Esgob Tyddewi wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C bod dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Cyngor Sir Penfro yn parhau yn "opsiwn" os ydy'r awdurdod yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i ddiddymu statws eglwysig ysgol gynradd Cilgerran.

Mae'r Eglwys yn gwrthwynebu bwriad i gael gwared ar statws Ysgol Cilgerran fel "ysgol wirfoddol a reoli" a'i throi i fod yn ysgol gymunedol.

Yn y gorffennol mae'r Cyngor wedi dweud mai pwrpas y newid yw "gwella cynaliadwyedd hir dymor yr ysgol."

Ar hyn o bryd, mae yna 96 o ddisgyblion yn yr ysgol, a 28% o lefydd gwag.

Er mai'r awdurdod sydd yn berchen ar yr adeilad ac sydd yn ariannu'r ysgol, yr Eglwys yng Nghymru sydd yn berchen ar y tir ac mae yna gysylltiad agos rhwng yr ysgol a'r eglwys.

Fel unig ysgol "ffydd" yr ardal, dyw hi ddim yn bosib i Ysgol Cilgerran ymuno mewn ffederasiwn gydag unrhyw ysgolion eraill yn yr ardal heb newid ei statws.

Fe bleidleisiodd y cyngor llawn ar 14 Mai o blaid cyhoeddi rhybudd statudol i'w chau hi fel ysgol eglwys, a'i hail agor fel ysgol gymunedol 3-11 oed.

Mae cyfnod i gyflwyno gwrthwynebiadau yn dod i ben ar ddydd Llun 21 Gorffennaf. Y bwriad yw cyflwyno'r newid ar y 1 Ionawr 2027.

Bu rhieni a disgyblion Ysgol Cilgerran yn protestio tu allan i Neuadd y Sir fore Iau, cyn cyfarfod y cyngor llawn.

Image
Kelly Davies, Cadeirydd y Llywodraethwyr
Kelly Davies, Cadeirydd y Llywodraethwyr

Kelly Davies yw Cadeirydd y Llywodraethwyr: "Mae gennym ni berthynas cryf rhwng yr ysgol, yr eglwys a'r gymuned ac mae hyn yn rywbeth i ddathlu, nid rhywbeth i dynnu i ffwrdd."

Mae Tracy Davies yn riant ac yn pryderu y gallai gwaredu'r statws eglwysig danseilio yr hawl i gael ysgol ar y safle yn y dyfodol.

"Mae'r ysgol ar dir yr eglwys felly os mae'r ysgol yn cael ei chymryd bant o'r eglwys, efallai na fydd ysgol ar gael mwyach, neu bydd rhaid mynd i ysgolion eraill. 

"Ni cadw yr ysgol i fynd fel mae hi. S'dim eisiau newid e."

Mae Ffion, sydd yn ddisgybl ym mlwyddyn 6, yn dweud bod disgyblion yn cefnogi'r cysylltiad gyda'r eglwys yng Nghymru

"Yn siarad ar ran y disgyblion, ni ddim yn hapus achos mae e wedi bod fel hyn am 181 o flynyddoedd. Pam nawr? 

"Mae gyda ni gysylltiad rili cryf gyda'r eglwys. Ni'n mynd yna bob wythnos. Pam mynd a hwnna i ffwrdd ? Pam potshian gyda fe?" meddai.

Image
Ffion disgybl ym mlwyddyn 6 Ysgol Cilgerran
Ffion, disgybl ym mlwyddyn 6 Ysgol Cilgerran

Mae rhai yn bryderus y bydd diddymu'r statws eglwysig yn gwneud hi'n haws i ffedereiddio'r ysgol gydag un arall yn yr ardal, fydd yn caniatáu rhannu cyrff llywodraethol ac adnoddau.

Mae yna ostyngiad o 21% wedi bod ym mhoblogaeth ysgolion y Preselau rhwng 2016 a 2024 a chyfartaledd o 34% o lefydd gwag mewn saith o ysgolion cynradd lleol sydd yn bwydo Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych.

Mae'r cynlluniau wedi cythruddo Esgob Tyddewi, y Gwir Barchedig Dorrien Davies.

"Ges i sicrwydd (gan y Cyngor) ynghylch yr ymgysylltu mewn deialog a gweithio mewn partneriaeth, a dyw hynny ddim wedi digwydd.

"Mae'n bwysig oherwydd mae'r cysylltiad gyda'r eglwys mewn esgobaeth ac yn daleithiol gyda'r ysgolion hyn ac mae yna gysylltiad Cristnogol gydag ysgolion ffydd," meddai.

"Mae’n rhan o'r ymddiddan rhyngddo ni a'r plant ac addysg leol, ac mae cadw'r cysylltiad yna mor bwysig."

Image
Protest Cilgerran yn Hwlffordd
Protest Cilgerran yn Hwlffordd

Mae cyfreithwyr yr Eglwys yng Nghymru wedi anfon llythyr at y Cyngor Sir yn bygwth camau cyfreithiol, os ydy'r cyngor yn bwrw 'mlaen gyda'r cynlluniau. 

Mae cwmni Carreg Law yn dadlau bod y Cyngor Sir wedi camddehongli'r gyfraith, a na fyddan nhw yn medru cau'r ysgol eglwysig ac agor ysgol gymunedol ar yr un safle. 

Maen nhw yn codi'r posibilrwydd o atal defnydd y safle ar gyfer ysgol newydd. Maen nhw hefyd yn dadlau y gallai'r penderfyniad greu anfantais i deuluoedd sydd am gael addysg mewn ysgol ffydd, ac y gallai fod gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail crefydd. 

Maen nhw yn bygwth achos cyfreithiol os nad yw'r cyngor yn newid ei meddwl.

Dywedodd y Gwir Barchedig Dorrien Davies bod yr Eglwys yn "cymryd y peth o ddifrif" er mwyn "sicrhau addysg ysgolion eglwysig yn yr esgobaeth" a bod dwyn achos cyfreithiol yn parhau yn "opsiwn."

'Hyblygrwydd'

Y Cynghorydd sir lleol yw John Davies. Mae’n dweud bod angen hyblygrwydd ar gyfer y dyfodol

“Beth dw i yn cefnogi yw bod yna ddyfodol i ddarpariaeth gynradd yng Nghilgerran. Mae hynny yn bwysig.

"Pan chi’n edrych ar y ffeithiau ar hyn o bryd, mae niferoedd yn cwympo ar draws y siroedd, ar draws yr ardal hon.

"Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol y gallu i ddarparu addysg gyflawn gyda phennaeth cyflogedig, a da o beth yw hynny. Tra bydd hynna yn para, fe fydda i yn cefnogi fe.

"Edrych i’r hir dymor a’r tymor canolog, mae angen edrych ar strwythurau. Y ffaith amdani yw hon yw’r unig ysgol eglwysig sydd yn y parthau hyn. Mae yna 25 milltir i’r un agosaf. 

"Os byddai angen newid, mewn 10 mlynedd neu 15 mlynedd, mae'n anodd gwneud hynny gydag ysgol eglwysig sydd yn ynysig. Dyna pam dw i yn cefnogi edrych ar yr opsiynau. 

"Bydda i ddim yn cefnogi os ydy’r cyngor cyfreithiol yn ei erbyn ef. Dyna pam mae angen cyngor cyfreithiol eglur iawn oherwydd yr eglwys sydd berchen y tir. 

"Mae’r adeiladau yn eiddo i’r cyngor sir. Mae’n fater technegol a chyfreithiol. Mae angen hyblygrwydd achos dyw e ddim gyda chi o dan y drefn bresennol.”

Wrth ymateb i’r bygythiad o achos cyfreithiol, dywedodd John Davies.

“Dw i yn deall bod nhw’n amddiffyn ei diddordeb ond maen nhw braidd yn fygythiol. S'dim byd yn Gristnogol yn hynny.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro: "Cafodd hysbysiad statudol ei gyhoeddi i gydymffurfio â'r 28 diwrnod, gyda 15 o'r rhain yn gorfod bod yn ddiwrnodau ysgol.

"Bydd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod hysbysiad yn cael eu casglu dros yr haf a'r disgwyl yw y bydd yr adroddiad yn dychwelyd i'r Cyngor yn yr hydref.

"Bydd y gwrthwynebiadau'n cael eu hystyried yn llawn a'u hamlinellu yn yr adroddiad gwrthwynebiadau. Rydym yn ymwybodol o farn yr esgobaeth ar y mater."

Roedd 97% o ymatebion i ymgynghoriad diweddar gan y cyngor yn gwrthwynebu'r syniad o gael gwared ar y cysylltiad eglwysig gyda’r ysgol yng Nghilgerran.

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi bygwth mynd i gyfraith dros benderfyniad arall gan Gyngor Sir Penfro i gau ysgol eglwysig Maenorbŷr, wnaeth losgi yn ulw mewn tan yn 2022.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.