Sir Benfro: Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A40 ger Arberth
Mae gyrrwr car wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda cherbyd arall ar yr A40 yn Sir Benfro.
Bu farw’r dyn yn dilyn y digwyddiad ger pentref Robeston Wathen, tua dwy filltir o Arberth, fore Mercher Awst 19.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys farwolaeth y gŵr mewn datganiad fore Gwener.
“Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i wrthdrawiad rhwng dau gerbyd a ddigwyddodd ar yr A40, ger Robeston Wathen, tua 9.15 ddydd Mercher, Awst 19,” meddai’r llu.
“Roedd Seat Arona gwyn a Honda Civic glas yn rhan o’r gwrthdrawiad.
“Yn anffodus, bu farw’r dyn oedd yn gyrru’r Seat yn y fan a’r lle. Mae ei deulu wedi cael gwybod a byddent yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.”
Ychwanegodd yr heddlu eu bod nawr yn apelio am gymorth gan unrhyw un allai fod â gwybodaeth neu dystiolaeth fideo o’r digwyddiad.
Llun: Google Maps