Sir Benfro: Dyn 22 oed wedi marw wedi gwrthdrawiad
Mae dyn 22 oed wedi marw wedi gwrthdrawiad yn Sir Benfro ddydd Mercher.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A4075 rhwng Pont Canaston a Yerbeston, a ddigwyddodd am tua 18.20.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Kia Sorento llwyd a beic modur Yamaha gwyn.
Bu farw dyn 22 oed oedd ar y beic modur yn y fan a’r lle. Cafodd teithwraig 22 oed oedd ar gefn y beic modur ei chludo i’r ysbyty.
Mae’r perthnasau agosaf wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Ni chafodd gyrrwr y Kia Sorento, dyn 60 oed, anafiadau.
Mae’r ffordd yn parhau ar gau er mwyn cynnal ymchwiliad i’r gwrthdrawiad, ac mae modurwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal a dod o hyd i lwybrau eraill, meddai'r heddlu brynhawn dydd Iau.
Byddai swyddogion sy’n ymchwilio yn hoffi siarad ag unrhyw fodurwyr oedd yn teithio ar hyd yr A4075 ar y pryd, neu unrhyw un sydd â chamera dashfwrdd yn eu cerbydau.
