Sioe Llanilar: Penderfynu peidio caniatáu adran wartheg ar ôl profion TB 'amhendant'
Ni fydd adran wartheg yn Sioe Llanilar eleni ar ôl profion TB gyda chanlyniad amhendant ar wartheg sydd ar y ffarm lle mae'r sioe yn cael ei chynnal.
Mewn datganiad dywedodd y pwyllgor bod "nifer fechan" o brofion gyda chanlyniad amhendant ar faes y sioe, sef Cae Sioe Castle Hill.
Dan reolau TB, neu'r diciâu, mae angen i'r anifeiliaid yma gael eu profi eto 60 diwrnod ar ôl y prawf cyntaf.
Mae hynny'n disgyn yn hwyrach na dyddiad y sioe, sef 8 Awst.
Ar hyn o bryd mae profion TB yn orfodol ar gyfer pob fferm wartheg yng Nghymru er mwyn ceisio rheoli'r clefyd.
Er bod modd cynnal profion ar gyfer y sioe, mae'r pwyllgor yn dweud y byddai'n "hynod anghyfrifol" i gynnal y sioe, gan fod gwartheg wedi byw ar faes y sioe eleni.
Ychwanegodd y pwyllgor nad oedd y penderfyniad yn un hawdd, ac yn "diolch i bawb am eu dealltwriaeth".
Roedd Sioe Llanilar yn bwriadu cynnal cystadlaethau ar gyfer sawl brid o wartheg, gan gynnwys holsteins a gwartheg duon Cymreig.
Dywedodd y pwyllgor eu bod yn ystyried posibilrwydd beirniadu'r gwartheg ar y ffermydd lle maen nhw'n cael eu cadw diwrnod cyn y sioe.
Byddai hyn yn cynnwys lluniau a fideos o'r gwartheg yn cael eu dangos yn ystod y sioe.
Cafodd Sioe Llanilar ei chynnal am y tro cyntaf yn 1904.
Mae eu gwefan yn nodi bod dros 1,000 o bobl yn ymweld â'r sioe bob blwyddyn.
