Sian Eleri yn 'falch' o allu cynrychioli gogledd Cymru drwy ei hacen
Sian Eleri yn 'falch' o allu cynrychioli gogledd Cymru drwy ei hacen
Mae’r cyflwynydd o Gaernarfon Sian Eleri wedi dweud ei bod yn “falch” o gynrychioli acenion pobl gogledd Cymru ar lefel cenedlaethol.
Ac mae’n dweud bod y Gymraeg yn rhan “mor anferth” o’i hunaniaeth – gyda chyflwyno rhaglen Y Llais yn ei galluogi iddi gysylltu gyda “adre" o hyd.
Fel un o gyflwynwyr blaenllaw BBC Radio 1, mae Sian bellach yn byw llawer o’i bywyd yn cyfathrebu drwy’r Saesneg.
Ond mae’n dweud bod hynny hefyd yn rhoi’r cyfle iddi ddathlu ei hacen ar lwyfan cenedlaethol, gan gynrychioli cymuned gogledd Cymru heb orfod trio.
“Mae’r ffaith dwi’n siarad y ffordd ydw i, a’r acen sydd genna fi, ‘sgennai ddim control drost y ffordd dwi’n swnio," meddai.
“Mae’n bleser llwyr gallu dangos bod ‘na acenion sydd yn bellach na falle jyst beth ‘sa pobl yn stereotypically meddwl am be’ ydy acen Cymraeg.
“A’r ffaith bod fi’n siarad Cymraeg hefyd, mae o’n rhan mor anferth o hunaniaeth fy hun, sut dwi’n teimlo am fy hun, sut dwi’n gweld y byd hefyd.
“Dwi mor falch bod fi gallu bod yn rhywun sydd yn gallu dweud, ‘Yndw, dwi’n gallu siarad Cymraeg'.
“’Sa fe’n neis os o’n i’n gallu iwsio fe mwy aml i fod yn onest.
“Yn amlwg dwi’n gweithio yn y Saesneg y rhan fwyaf o’r amser felly mae cael ‘neud cyfresi fel Y Llais yn siawns i fi gallu tapio fewn i adre’ o hyd.”
'Rhan o'r sgwrs byd eang'
Fe fydd cyfres Y Llais yn dychwelyd i’r sgrin fach am 19.30 nos Sul ar S4C.
Yn ôl Sian, roedd llwyddiant y gyfres gyntaf yn dangos bod yna “apêl” i gerddoriaeth Cymraeg yng Nghymru a thu hwnt.
Mae cynnwys Y Llais wedi cael eu ffrydio dros 4.7 miliwn o weithiau ar-lein, gydag un ym mhob tri o wylwyr ddim yn siarad Cymraeg.
“Dwi’n meddwl bod e’n grêt bod ni’n rhan o’r sgwrs byd eang a bod Y Llais yng Nghymru a bod o ddim yn rhywbeth sydd yn jyst ar gyfer pobl sydd yn siarad Saesneg," meddai.
“Mae’n hanfodol dwi meddwl o ran gallu dangos i’r byd i gyd bod Cymru yn rhyw le sbesial ac mae ‘na reswm pam ei bod yn cael ei alw’n ‘Wlad y Gân’.”
'Rili sbesial'
Fe fydd enillydd ail gyfres Y Llais yn cael cydweithio gyda’r cyfansoddwr profiadol Amy Wadge.
A hithau gyda phrofiad o weithio ochr yn ochr gyda rhai o sêr y sin, gan gynnwys Ed Sheeran, Pink a Sam Ryder, fe fydd yr enillydd mewn “dwylo saff,” meddai Sian.
Ychwanegodd: “Mae o’n rili sbesial i fod yn rhan o rywbeth lle ti’n darganfod talent newydd sydd ella ddim efo’r adnoddau i allu cymryd rhan yn y byd cerddoriaeth.
“Achos mae’n beth anodd i cracio yn y lle cynta’, ella bod nhw ddim yn teimlo bod o ar gael i bawb a mae Y Llais fel platfform mor wych achos mae’n siop ffrynt i chdi, i ddangos i bawb be’ ti’n gallu ‘neud efo miliynau o bobl yn gwylio adre’."
Mae’n dweud bod enillydd y gyfres gyntaf, Rose Datta, wedi “gosod y bar” o ran safon cerddoriaeth Cymraeg.
“Dwi’m yn meddwl bod ‘na fwy o bwysau i ‘neud yn siŵr bo’ chdi’n llwyddo fel mae Rose ‘di ‘neud, dwi meddwl os rhywbeth mae o ‘di dangos bod y rhaglen yn gneud ei job ag yn helpu hybu gyrfaoedd pobl yn y byd cerddoriaeth," meddai.
“Hwn ydy cychwyn ei siwrne hi a hi sydd ‘di setio’r bar a’r safon sydd ‘na a faint o dalent sydd ‘na yng Nghymru yn benodol.”
Bydd modd gwylio pennod gyntaf cyfres newydd Y Llais am 19.30 ar S4C ar nos Sul, a bydd modd ei ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer.