Sharron Davies yn herio dirwy ar ôl gyrru adref o Gymru
Mae disgwyl i'r gyn nofwraig Olympaidd Sharron Davies ymddangos mewn llys yn fuan ar ôl iddi gael dirwy am oryrru ar draffordd yr M4 wedi iddi fod yn siarad mewn digwyddiad yng Nghymru.
Mae'r Farnwes Davies yn dadlau bod yr arwydd ar y draffordd "mor wael" ei bod yn "hawdd ei fethu."
Yn ôl dogfennau'r llys, roedd y nofwraig 63 oed yn gyrru ei char Mini ar gyflymder o 65mya lle roedd y terfyn wedi ei ostwng i 50mya pan gafodd ei dal gan gamera cyflymder ar yr M4 yn ne Sir Gaerloyw ar 15 Hydref y llynedd.
Yn ôl Sharron Davies a ymunodd â Thŷ'r Arglwyddi yn ddiweddar, cafodd "sioc" ar ôl derbyn dirwy goryrru, ac mae hi'n mynnu nad hi oedd ar fai.
"Rwy'n bendant fy marn bod yr arwydd mor wael, roedd yn hawdd ei fethu, a dyna mae'n rhaid sydd wedi digwydd," meddai.
"Roeddwn i'n teithio nôl ar fy mhen fy hun o Gymru lle roeddwn i wedi bod yn siarad mewn digwyddiad," eglurodd mewn datganiad gyda'i nodyn yn pledio'n ddieuog
"Rydw i wastad yn ofalus iawn yn enwedig yng Nghymru, am fod cynifer o gyfyngiadau cyflymder, ee 20mya a 50mya o amgylch Casnewydd, felly rydw i'n defnyddio'r botwm cysoni cyflymder (cruise control) a'r ap Waze i gyrraedd adref – sy'n wych gyda'u negeseuon.
"Roedd hi'n 23.30 yr hwyr, roedd yr arwydd yn aneglur, ac yn sicr, nes i ddim gweld arwydd clir yn nodi fod y cyflymder wedi ei ostwng i 50mya o 70mya ar y draffordd.
"Roeddwn i'n gwneud 67mya, sydd oddi mewn i'r 70mya roeddwn i'n credu oedd yn bodoli.
"Roedd tair lôn o draffig ysgafn iawn, ac yn bwysicach na dim, doedd dim criw yn gweithio (ar y draffordd.)
"Byddwn yn bendant wedi gostwng fy nghyflymder pe bawn yn gwybod am y cyfyngiad.
"Ar ôl gyrru am 45 mlynedd, dydw i erioed wedi brwydro yn erbyn dirwy goryrru."
Ychwanegodd ei bod hi'n ystyried ei hun yn yrrwr da a diogel.
Cafodd y Farwnes Davies, a gipiodd fedal arian Olympaidd, ei henwebu i Dy'r Arglwyddi gan yr Arweinydd Ceidwadol yn San Steffan, Kemi Badenoch ddiwedd 2025.
Cafodd yrfa lwyddiannus dros gyfnod o dri degawd, gan ennill dwy fedal air yng Ngemau'r Gymanwlad a thorri mwy na 200 record Brydeinig yn y pwll nofio cyn iddi ymddeol yn 1994.
Aeth ymlaen i fod yn sylwebydd ar deledu.
Mae disgwyl iddi sefyll ei phrawf yn Llys Ynadon Caerfaddon ar 11 Awst eleni.
Llun PA