Belinda Moore yn rhoi'r gorau i redeg gêm y merched yng Nghymru

Belinda Moore

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfnod Belinda Moore fel Pennaeth Rygbi Merched a Menywod, yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth.

Dywedodd URC bod hyn “cyn iddi cyn iddi dderbyn her newydd yn y byd chwaraeon”.

Cafodd Moore ei phenodi ym mis Ionawr 2025 i rôl oedd yn newydd ar y pryd.

Roedd ei phenodiad gwreiddiol hyd at ddiwedd cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd ar gyfer y menywod yn Lloegr y llynedd, ond cafodd ei chytundeb ei ymestyn wedi hynny.

Dywedodd URC fe fydd Belinda Moore yn chwarae rhan allweddol yn y broses o benodi ei holynydd.

Mae Moore wedi derbyn swydd newydd gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr fel Cyfarwyddwr Datblygu Twf cystadleuaeth ‘The Hundred’.

Roedd Moore yn  gyn Brif Weithredwr Uwch Gynghrair Rygbi Lloegr yng nghamp y menywod.

Cafoddd rôl Moore ei chreu yn dilyn Adolygiad Annibynnol Undeb Rygbi Cymru yn 2024, a hi oedd yn gyfrifol am arwain a chwblhau’r trafodaethau gyda chwaraewyr Cymru am gytudebau proffesiynol newydd ein menywod.

Dywedodd URC ei bod hi “wedi bod yn flaenllaw wrth sicrhau bod gan y chwaraewyr gynrychiolaeth briodol gyda Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru ac mae’r ffaith bod swydd newydd Rheolwr Datblygu Chwaraewyr wedi ei chreu, yn mynd i greu gwaddol hirdymor yn y cyd-destun hwnnw”.

'Cyflym'

Dywedodd Belinda Moore: “Y bwriad o’r cychwyn cyntaf oedd dechrau’r broses o osod sylfeini cadarn ar gyfer y gêm i ferched a menywod yma yng Nghymru, gan hefyd chwarae fy rhan wrth benodi fy olynydd.

“Heb amheuaeth, mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol yn dilyn ein hymgyrch ddiweddar yng Nghwpan y Byd. Ond mae llawer iawn o dalent ifanc yma, ac rydym yn gweld y chwaraewyr hynny’n cryfhau’n sylweddol ac yn gwneud eu marc yn bendant yn yr Her Geltaidd – yn enwedig nawr bo’r gystadleuaeth honno’n cynnig mwy o gemau’r tymor yma.

“Mae’n bwysig cofio hefyd i ni dorri’r record o safbwynt y dorf ar gyfer tîm Menywod Cymru, pan ddaeth Lloegr i Stadiwm Principality’r llynedd.

“Mae’n dangos pa mor gyflym mae’r gêm i ferched a menywod wedi datblygu yma yng Nghymru. Mae’n arferol bellach i’n merched ni chwarae rhai o’u gemau cartref yn y stadiwm gorau’n y byd.”

Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: “Rydym yn ddiolchgar i Belinda am y gwaith y mae hi wedi’i wneud gyda’n carfan genedlaethol ac am ei pharodrwydd i chwarae rhan allweddol yn y broses o benodi ei holynydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.