Sganwyr mewn ysgolion er mwyn archwilio disgyblion sydd dan amheuaeth o fod mewn meddiant arf
Sganwyr mewn ysgolion er mwyn archwilio disgyblion sydd dan amheuaeth o fod mewn meddiant arf
"Mae'r synhwyrydd metel yma yn gallu darganfod unrhyw fetel."
Ers yr Hydref mae pob ysgol cynradd ac uwchradd yng Nghaerdydd wedi cael un o'r rhain, law yn llaw a chanllaw newydd i staff mae'r sganwyr yma'n cael eu cadw rhag ofn bod achos i archwilio disgybl os oes amheuaeth eu bod ag arf ar y safle.
"Yn yr achosion hyn mae hawl gyda ni i wirio gyda'r disgybl.
"Os yw'r disgybl ddim yn cyfaddef bod yr arf gyda nhw mae gyda ni hawl archwilio gyda synhwyrydd metel.
"Ni ddim wedi gorfod defnyddio'r canllawiau hyd yma.
"O brofiad mae'n gweithio mewn gwledydd eraill.
"Dw i'n ymwybodol bod o'n bwysig bod y cynllun mewn lle fel ein bod yn gwybod beth i wneud."
Nawr mae'r Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle yn dweud byddan nhw'n adeiladu ar waith Caerdydd i greu adnoddau i ysgolion ar draws y wlad.
Bydd hynny ddim yn ganiataol yn golygu sganwyr i bawb.
"The guidance will have to be developed based on local circumstances.
"Schools can already use things like search wands.
"They've already got the powers to screen for weapons without suspicion.
"We'll do this work with our partners across Wales."
Mae hyn oll yn dilyn Uwchgynhadledd Ymddygiad llynedd a hynny wedi dod yn sgil ymosodiad ar staff a disgybl mewn ysgol yn Sir Gâr bron ddwy flynedd yn ôl.
"Mae hi bron yn ddwy flynedd ers y digwyddiad treisgar yn Dyffryn Aman.
"Mae saith mis wedi pasio ers yr Uwchgynhadledd Ymddygiad.
"Mae 'na ryw fath o arweiniad pendant gan y llywodraeth yn hytrach nag ALl yn mynd ati i wneud trefniadau eu hunain fel sydd wedi digwydd yng Nghaerdydd."
Mae'r llywodraeth wedi cael ei beirniadu am beidio gwneud digon.
Cysyllton ni a'r prif bleidiau a dywedodd y Ceidwadwyr bod angen camau cadarn nid siarad gwag.
Byddai gweithredu Canllaw Caerdydd yn un cam meddai Plaid Cymru tra bod rhestr o bethe yn sgil Uwchgynhadledd Ymddygiad heb eu cyflwyno.
Mae ysgolion yn llai diogel dan lywodraeth Lafur Cymru yn ôl Reform UK a'r Gwyrddion yn galw am fwy o fuddsoddiad mewn cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc.
O ran y Democratiaid Rhyddfrydol, dywedon nhw eu bod am weld mesurau ymarferol i gadw pawb yn saff.
Roedd y pennaeth yma yn arfer gweithio'n UDA.
"Roedd son am arfau'n fwy cyfarwydd.
"Mae dod fan hyn a chlywed yr un pryderon yn bryder i fi fel unrhyw unigolyn.
"Dw i'n ymwybodol bod e'n bwysig bod y cynlluniau mewn lle i ddiogelu ni a gobeithio byddwn ni byth yn gorfod defnyddio nhw."
Gobaith pawb yw peidio gorfod delio ag arf mewn ysgol gan wybod bod achosion weithiau yn digwydd.