Sgandal Gwaed: Gofyn i Andy Burnham ddatrys 'anghyfiawnderau' ar unwaith
Mae dioddefwyr sgandal gwaed y 1970au a’r 1990au cynnar wedi galw ar Brif Weinidog y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â'r ‘anghyfiawnderau’ yn y cynllun iawndal.
Roedd ymgyrchwyr wedi canmol Andy Burnham yn y gorffennol am ei gefnogaeth at ddioddefwyr. Mae'r dioddefwyr yn gleifion yn y DU a wnaeth ddal hepatitis C, HIV, neu’r ddau, ar ôl cael gwaed neu gynhyrchion gwaed wedi'u heintio.
Ddydd Mercher bydd ymgyrchwyr yn cyflwyno cyfres o lythyrau a dogfennau yn Downing Street. Daw hyn cyn sesiwn gyntaf Mr Burnham yn Sesiwn Holi'r Prif Weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin.
Mae’r dioddefwyr yn galw arno i gyflymu’r taliadau ac i ddatrys y problemau sydd wedi eu codi – sy’n cynnwys gofyn am geisiadau gyda ‘thystiolaeth o safon afresymol o uchel’ gan y corff sy’n delio â’r iawndal.
Daeth yr Ymchwiliad i Waed wedi’i Heintio i ben eleni, ar ôl archwilio’r hyn sydd wedi ei ddisgrifio fel y ‘trychineb triniaeth gwaethaf’ yn hanes y GIG.
Cafodd mwy na 30,000 o bobl yn y DU eu heintio â HIV a hepatitis C ar ôl derbyn gwaed a chynhyrchion gwaed yn ystod y 70au a dechrau’r 1990au.
Fe fuodd dros 3,000 o bobl farw o ganlyniad, ac mae’r rheini a oroesodd yn byw ag effeithiau iechyd hirdymor.
Yn ôl Ymchwil Senedd San Steffan: "Cafodd tua 1,250 o bobl yn y DU ag anhwylderau gwaedu eu heinto â HIV, yn cynnwys tua 380 o blant.
"Roedd bron pob un sydd wedi'i heintio â HIV hefyd wedi'u heintio â hepatitis C a rhai â hepatitis B a hepatitis D. Mae tri chwarter o'r 1,250 o oedolion a phlant hyn wedi marw.
"Roedd rhwng 2,400 a 5,000 o bobl ag anhwylderau gwaedu nad oeddent wedi’u heintio gan HIV wedi derbyn cynhyrchion gwaed wedi’u heintio ag un neu fwy firws hepatitis, a datblygu hepatitis C cronig.
"Cafodd rhwng 80 a 100 o bobl eu heintio â HIV a chafodd tua 26,800 eu heintio â hepatitis C ar ôl cael trallwysiad gwaed," meddai'r gwaith ymchwil.
Yng Nghymru, yn ôl Haemoffilia Cymru cafodd 283 o gleifion eu heintio â hepatitis C - o’r rheini, roedd 55 hefyd wedi’u heintio â HIV.
Yng Nghymru yn unig mae mwy na 70 o bobl â hemoffilia wedi marw.
O ganlyniad, cafodd cynllun iawndal i ddioddefwyr ei gyhoeddi yn 2024. Cafodd £11.8 biliwn ei ddyrannu i dalu iawndal, wedi ei weinyddu gan yr Awdurdod Iawndal Gwaed wedi’i Heintio (IBCA).
17% wedi derbyn iawndal
Yn ôl ffigurau’r IBCA, mae ychydig dros 3,500 o bobl wedi derbyn iawndal hyd yma, sy’n gyfanswm o £2.2 biliwn.
Dim ond 17% o’r dioddefwyr sydd wedi derbyn eu hiawndal er gwaethaf hynny.
Dywedodd Glenn Wilkinson, trefnydd y brotest a sylfaenydd yr Ymgyrch Gwaed Halogedig:
“Mae dioddefwyr Hepatitis yn benodol wedi cael eu gadael gyda chynllun cymhleth sy’n gofyn am lefel afresymol o ymdrech i fynd drwy’r broses.
“O ganlyniad, mae’r cynllun yn methu oherwydd yr holl gymhlethdod a’r holl drafferth i’r rheini sy’n haeddu iawndal.”
Mae cais am ymateb wedi ei anfon at Swyddfa’r Cabinet yn San Steffan a’r IBCA.
