'Sefyllfa ariannol hynod heriol': Disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb

Elin Jones
Elin Jones

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb ddrafft ddydd Mawrth, gan nodi sut y bydd yn gwario arian cyhoeddus dros y blynyddoedd nesaf.

Hon fydd cyllideb lawn gyntaf y llywodraeth newydd, sy'n cael ei harwain gan Blaid Cymru.

Bydd gwariant Llywodraeth Cymru ar wasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd yn gostwng 0.5% mewn termau real y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl hefyd i’r gyllideb gyfalaf, sy’n ariannu prosiectau fel adeiladu ysgolion ac ysbytai, ostwng bron i 10% mewn termau real erbyn 2029-30.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Elin Jones, fod y llywodraeth yn wynebu "sefyllfa ariannol hynod heriol".

"Nid yw’r cyllid gan Lywodraeth y DU wedi cadw i fyny â chwyddiant, felly mae gennym lai i’w wario ar y gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn dibynnu arnynt," meddai cyn cyhoeddi'r gyllideb.

"Ond ar yr un pryd, mae hon yn Llywodraeth newydd sydd â mandad i gyflawni rhaglen uchelgeisiol o newid.

"Felly, mae'r Gyllideb hon yn troi tudalen ar y gorffennol. Mae'n ailosod y ffordd mae Cymru'n gwario arian cyhoeddus.

"Bydd pob punt yn cael ei gwario mewn ffordd ddoeth, a byddwn yn mesur llwyddiant nid yn ôl faint rydyn ni'n ei wario, ond yn ôl y canlyniadau y byddwn ni’n eu cyflawni i bobl Cymru.

"Mae'r Gyllideb heddiw yn gosod y sylfeini ar gyfer popeth mae'r llywodraeth eisiau ei gyflawni yn ystod tymor y Senedd hwn."

'Pwysau parhaus'

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU £450 miliwn yn ychwanegol i Gymru dros gyfnod o bedair blynedd yn ei Chyllideb yn yr hydref.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad yw'r cyllid sydd ar gael yn ddigon i gadw i fyny â chwyddiant.

Mewn ymateb i gyhoeddiad Cyllideb Llywodraeth San Steffan fis diwethaf, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd wedi "taro'r nod o safbwynt Cymru." 

Image
John Healey
Canghellor Llywodraeth y DU, John Healey

"Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o hyd yw creu Cymru sy'n gallu meithrin ei heconomi, cryfhau gwasanaethau cyhoeddus, gwella bywyd bob dydd, a llywio ei dyfodol ei hun. 

"Bydd y pwysau parhaus ar wariant o ddydd i ddydd, ynghyd â setliad cyfalaf sy'n crebachu, yn ei gwneud yn anoddach buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, seilwaith a thwf economaidd. 

"Er gwaethaf y pwysau hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i frwydro dros Gymru a dadlau'r achos dros y cyllid teg a'r buddsoddiad sydd eu hangen ar gymunedau."

Dywedodd y Canghellor John Healey byddai'r Gyllideb yn "lleddfu’r pwysau" ar aelwydydd Cymru yn ystod y misoedd oeraf.

Fe gyhoeddodd  y byddai 20 miliwn o gartrefi yn Lloegr sydd ym mandiau Treth y Cyngor A-D yn derbyn "taliad ynni" gwerth £100 y gaeaf hwn, mewn prosiect gwerth £2.6 biliwn.

Ac mae Elin Jones wedi cadarnhau y bydd aelwydydd yng Nghymru sydd yn gymwys hefyd yn derbyn y taliad.

Mae disgwyl i'r gyllideb derfynol gael ei chyhoeddi ar 16 Chwefror.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.