Sefydlu cymdeithas labeli recordiau cyntaf Cymru
Mae rhai o brif labeli recordiau Cymru wedi ffurfio cymdeithas am y tro cyntaf er mwyn hyrwyddo’r sector.
Dywedodd Cymdeithas Labeli Cymru eu bod nhw’n bwriadu “mynd ati i ddatblygu rhaglen waith blynyddol”.
Bwriad y gymdeithas medden nhw “fydd gweithio i sicrhau dyfodol cynaliadwy a chefnogol i labeli a cherddorion Cymru”.
Ymysg y labeli sydd yn rhan o’r Gymdeithas mae Recordiau Côsh, INOIS, Fflach Cymunedol, Sain, Recordiau I KA CHING, Recordiau Libertino, Bubblewrap Collective, Recordiau JigCal, Grwndi Rec-ords, Sbrigyn Ymborth, Tarw Du, Meraki, Recordiau Sbensh, Lwcus T, Recordiau Bryn Rock, Recordiau MoPaChi, Codi Pais Records a Mr Phormula.
Dywedodd Cymdeithas Labeli Cymru: “Mae labeli recordiau annibynnol wedi bod yn rhan allweddol o hanes cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig ers sefydlu Sain yn y chwedegau a ysgogodd ffurfio rhai o labeli mwyaf dylanwadol y degawdau diwethaf megis Fflach, Recordiau Anhrefn ac Ankst.
“Ers troad y ganrif, mae niferoedd y labeli yma wedi cynyddu er bod yr heriau y maent yn eu hwynebu wedi cynyddu hefyd.
“Mae croeso i unrhyw label sydd yn rhyddhau mwy nag un artist ac yn rhyddhau cynnyrch Cymraeg neu ddwyieithog i ymuno â’r Gymdeithas.”
Yws Gwynedd (Recor-diau Côsh) fydd cadeirydd cynta’r gymdeithas gyda Hedydd Ioan (INOIS) yn is-gadeirydd.
Dywedodd Yws Gwynedd: “Mae’r ffaith fod labeli Cymru wedi dod at ei gilydd i gydweithio fel un yn dangos y cynnydd gwych mae’r sîn gerddorol yng Nghymru wedi’i brofi'n ddiweddar.
“Drwy osod sylfaeni fel hyn, ‘da ni’n siŵr o godi proffesiynoldeb ein diwydiant, a sicrhau dyfodol cerddoriaeth Gymreig gyda gweledigaeth y rhai sy’n gyfrifol am ei rhyddhau a’i hyrwyddo.”
