Sam Neill, actor Jurassic Park, wedi marw yn 78 oed

Yr actor Sam Neill

Mae'r actor Sam Neill, oedd yn adnabyddus am ei rôl yn y ffilmiau Jurassic Park, wedi marw yn 78 oed.

Mewn datganiad mae ei deulu wedi dweud fod ei farwolaeth wedi bod yn "sydyn ac yn annisgwyl".

Roedd Neill wedi cael diagnosis o ganser yn 2023 ond ym mis Ebrill eleni fe gyhoeddodd ei fod yn rhydd o'r afiechyd.

Fe ddywedodd ei deulu ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod wedi marw yn Sydney gyda'i deulu o'i gwmpas.

Cafodd Sam Neill ei eni yng Ngogledd Iwerddon ond fe symudodd i Seland Newydd pan yn blentyn.

Fe chwaraeodd rôl Dr Alan Grant yn y ffilmiau Jurassic Park ac fe ymddangosodd hefyd mewn nifer o ffilmiau eraill gan gynnwys The Piano, The Jungle Book, Peter Rabbit a The Hunt For Red October.

Fe weithiodd ar gynyrchiadau teledu hefyd fel Peaky Blinders, The Tudors, The Simpsons ac Alcatraz.

Dywedodd ei deulu eu bod yn rhannu'r newyddion am ei farwolaeth 'gyda thristwch aruthrol'.

"Roedd Sam wedi'i amgylchynu gan ei deulu ac fe fu farw gyda'r urddas a fu'n nodweddu ei fywyd cyfan.

"Roedd ei farwolaeth yn sydyn ac yn annisgwyl, ond mae'n gysur gwybod bod Sam yn parhau'n rhydd o ganser.

"Hoffai'r teulu fynegi eu diolch diffuant i staff Ysbyty Preifat St Vincent am y gofal arbennig a ddarparwyd ganddynt.

"Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu maes o law, ond am y tro, ar ran y teulu, gofynnwn yn garedig i chi barchu eu preifatrwydd wrth iddynt ddod i delerau â'r golled aruthrol hon."

Llun: Reuters 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.