Saith adroddiad am garcharorion yn cyrraedd yn hwyr i Lys y Goron Caerdydd dros gyfnod o bedwar mis

 Llys y Goron Caerdydd

Cafodd saith adroddiad eu cyflwyno i Gyngor y Bar am garcharorion yn cyrraedd Llys y Goron Caerdydd yn hwyr dros gyfnod o bedwar mis eleni.

Mae’r ymchwil gan Gyngor y Bar, sy’n seiliedig ar adroddiadau gan fargyfreithwyr, yn awgrymu bod oedi wrth gludo carcharorion i’r llys yn “endemig” ac “yn digwydd fel mater o drefn”.

Yn ôl yr adroddiad, cafodd 13 o adroddiadau eu cyflwyno am oedi mewn pedwar llys y Goron yng Nghymru yn ystod y cyfnod.

Ar ben y saith adroddiad yn ymwneud â Llys y Goron Caerdydd, roedd tri yn Llys y Goron Abertawe, dau yng Nghasnewydd ac un ym Merthyr Tudful.

Daeth adroddiadau o 69 o lysoedd a 59 o garchardai ledled Cymru a Lloegr, gan ddangos bod hon yn “broblem strwythurol yn hytrach nag un leol”, meddai Cyngor y Bar.

Cafodd dros 200 o adroddiadau eu cyflwyno ledled Cymru a Lloegr, sef cyfartaledd o 13 yr wythnos.

Disgrifiodd bargyfreithwyr achosion lle nad oedd treialon yn dechrau tan y prynhawn ac wythnosau cyfan o amser llys yn cael eu colli oherwydd yr oedi.

Roedd hyn yn gwastraffu amser ac adnoddau ac yn cael effaith enfawr ar bawb oedd yn rhan o’r achosion.

Dywedodd un bargyfreithiwr wrth Gyngor y Bar: “Mae’r oedi bellach yn endemig gan nad yw diffynyddion sydd yn y ddalfa yn cael eu cludo i’r llys mewn pryd.”

Roedd chwarter yr adroddiadau (24%) yn nodi bod yr oedi wedi para dros bum awr. Roedd 34% yn nodi oedi o rhwng dwy a phum awr.

Roedd bron i hanner yr adroddiadau (47%) yn nodi bod yr oedi wedi cael effaith “sylweddol” ar rediad yr achos.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod perfformiad contractwyr wedi bod yn gyson uwch na 99.8%.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.