S4C i ddarlledu pob un o gemau Cymru mewn cystadleuaeth rygbi newydd

Cymru v Ffiji

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd yn darlledu pob un o gemau Cymru yn y gystadleuaeth rygbi newydd, Pencampwriaeth y Cenhedloedd, yn fyw am y bedair mlynedd nesaf.

Bydd Pencampwriaeth y Cenhedloedd, sy’n dechrau’r haf hwn, yn gyfres sy’n cael ei chynnal ddwywaith y flwyddyn ac yn gosod timau hemisffer y gogledd yn erbyn timau hemisffer y de.

Ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth, bydd Cymru’n chwarae saith gêm – tair ym mis Gorffennaf a phedair ym mis Tachwedd.

Bydd pob canlyniad yn cyfrannu at dabl y bencampwriaeth, gyda’r gêm olaf yn penderfynu ar safle terfynol Cymru.

Mae'r darllediadau'n cychwyn ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf, pan fydd Cymru yn wynebu Fiji yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Bydd Fiji yn chwarae ei gemau cartref yn hemisffer y gogledd.

Bydd Cymru yn chwarae’r ddwy gêm nesaf yn ystod yr haf, gan deithio i’r Ariannin ar 11 Gorffennaf, cyn wynebu De Affrica ar 18 Gorffennaf.

Dywedodd Prif Swyddog Masnachol Undeb Rygbi Cymru, Tomos Grace, fod y cytundeb yn dangos bod “rygbi Cymru yn berchen i bawb yng Nghymru”.

“Mae amlygrwydd S4C yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod â chynulleidfaoedd a chefnogwyr Cymraeg ynghyd ac rydym yn diolch i S4C am eu cefnogaeth barhaus ar bob lefel o’r gêm."

Sara Elgan fydd yn cyflwyno’r darllediadau, gyda Ken Owens a Sioned Harries yn ymuno â hi. Gareth Charles a Gwyn Jones fydd yn sylwebu.

Dywedodd Sara Elgan ei fod yn gyfnod cyffrous i rygbi rhyngwladol “ac mae’r fformat newydd yn ychwanegu dimensiwn ffres at y gêm".

"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at adrodd y straeon, dal yr awyrgylch a rhannu’r cyffro ar y sgrin ochr yn ochr â thîm gwych, a dod â’r cyfan i gynulleidfaoedd sy’n siarad Cymraeg ledled Cymru,” meddai.

Cwmni cynhyrchu Sunset & Vine fydd yn gyfrifol am y darllediadau o Bencampwriaeth y Cenhedloedd ar gyfer S4C, ac fe fydd modd gwylio’n fyw ar deledu, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.