Cyhuddo dyn o Ddulyn o achosi marwolaeth dynes yn Wrecsam

Lydia La Polla

Mae dyn o brifddinas Iwerddon wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth dynes yn Wrecsam.

Fe gafodd Michael Connors o Ballyfermot yn Nulyn ei estraddodi i Gymru ddydd Mawrth ar ôl cael ei arestio gan y Garda yn Iwerddon.

Mae wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ac yn wynebu dau gyhuddiad o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.

Bu farw Lydia La Polla, 47 oed, yn yr ysbyty deuddydd ar ôl y gwrthdrawiad, a ddigwyddodd rhwng Ffordd Belgrade a Ffordd Percy am 21:30 ar 24 Mawrth 2025.

Cafodd ei gŵr a bachgen 16 oed eu hanafu'n ddifrifol.

Roedd y tri yn teithio mewn car Toyota pan oedd Mercedes arian a oedd yn ffoi rhag yr heddlu wedi gwrthdaro â nhw.

Fe wnaeth y gyrrwr a pherson arall oedd yn y Mercedes ffoi ar ôl y gwrthdrawiad, meddai'r heddlu.

'Trasig'

Fe wnaeth Michael Connors ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher.

Ni chyflwynodd ble a bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 17 Gorffennaf.

Mae Prif Uwcharolygydd Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i bobl beidio â dyfalu am yr hyn a ddigwyddodd ar ôl i Mr Connors gael ei arestio.

"Mae ein cydymdeimlad mwyaf yn parhau gyda theulu Lydia La Polla ar ôl eu colled trasig," meddai.

"Byddwn yn parhau i'w cefnogi drwy bob cam o'r ymchwiliad a'r achosion llys sydd i ddod.

"Gan fod yr ymchwiliad yn dal i fynd rhagddo, mae'n bwysig nad oes unrhyw ddyfalu am y digwyddiad ar-lein."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.