Rhybudd ffurfiol i gyn-weithiwr gofal iechyd am gamddefnyddio cofnodion meddygol Tywysoges Cymru
Mae cyn-weithiwr gofal iechyd yn y London Clinic wedi derbyn rhybudd ffurfiol am gamddefnyddio cofnodion meddygol preifat Tywysoges Cymru.
Roedd wedi gwneud hynny’n fwriadol, ac wedi cynnig eu datgelu er budd ariannol, meddai Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Fe wnaeth yr ICO ddechrau ymchwiliad troseddol ym mis Mawrth 2024 i’r modd yr oedd gwybodaeth feddygol wedi ei chael a’i datgelu’n anghyfreithlon i drydydd parti heb ganiatâd y rheolydd data.
Daeth yr ymchwiliad ar ôl i’r London Clinic adrodd am achos o dorri rheolau.
Ar y pryd, cafodd ei adrodd bod o leiaf un aelod o staff wedi ceisio cael mynediad at gofnodion y Dywysoges tra'r oedd hi’n glaf yn yr ysbyty preifat yng nghanol Llundain ym mis Ionawr.
Dywedodd yr ICO ddydd Mercher: “Ar ôl asesiad llawn o dan God Erlynwyr y Goron a Pholisi Erlyn yr ICO, fe wnaeth yr ICO roi rhybudd ffurfiol i gyn-weithiwr gofal iechyd proffesiynol o Lundain mewn perthynas â throsedd o dan adran 170(5) o Ddeddf Diogelu Data 2018.
“Roedd yr ymddygiad yn ymwneud â chamddefnyddio gwybodaeth bersonol hynod sensitif yn fwriadol, a chynnig ei datgelu er budd ariannol, ac roedd hynny’n achos clir o dorri ymddiriedaeth.”
‘Cyfrinachedd’
Dywedodd yr ICO fod rhybudd ffurfiol yn “gam gorfodi priodol a chymesur”.
Ychwanegodd: “Fe wnaethon ni hefyd ystyried a oedd unrhyw faterion sefydliadol ehangach yn codi o’r ddarpariaeth gofal iechyd yn yr achos hwn.
“Ar sail y dystiolaeth oedd ar gael, ni wnaethon ni nodi unrhyw fethiannau a fyddai’n cyrraedd y trothwy ar gyfer gorfodaeth reoleiddiol.”
Dywedodd llefarydd ar ran y London Clinic: “Rydyn ni i gyd yn ymfalchïo’n fawr mewn darparu’r safonau uchaf o ofal a chyfrinachedd i bob claf yn The London Clinic.
“Rydyn ni’n falch bod ein gwaith gyda’r ICO wedi dod â’r achos trist ac unigol hwn i ben.
“Doedd yr ysbyty ddim wedi torri unrhyw reoliadau.”