Rygbi: Stephen Jones wedi'i benodi'n brif hyfforddwr ar Newcastle Red Bull
Mae cyn-faswr a hyfforddwr Cymru, Stephen Jones, wedi’i benodi’n brif hyfforddwr ar Glwb Rygbi Newcastle Red Bull.
Fe fydd Jones yn cymryd yr awenau tan ddiwedd y tymor, ar ôl i’r clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr gyhoeddi bod yr hyfforddwr Alan Dickens yn gadael.
Dyma’r tro cyntaf i Jones, 48 oed, weithio fel prif hyfforddwr.
Yn gyn-hyfforddwr gyda Wasps a Scarlets, fe dreuliodd cyfnod fel hyfforddwr ymosod Cymru dan Wayne Pivac.
Ar ôl tair blynedd gyda Chymru, cafodd Jones ei benodi’n is-hyfforddwr dros Moana Pasifika yng nghynghrair Super Rugby Pacific, sydd yn cynrychioli chwaraewyr o wledydd FFiji, Samoa a Tonga.
Fis Rhagfyr y llynedd, fe gafodd Jones ei benodi’n is-hyfforddwr dros Newcastle Red Bull, y clwb lle mae Liam Williams bellach yn chwarae.
Mae’r tîm ar waelod yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd ar ôl 10 gêm, wrth i Jones gymryd yr awenau ar gyfer y gêm yn erbyn Northampton ddydd Sadwrn.