Rygbi: Cymru angen 'codi'r safon' yn erbyn yr Eidal
Mae prif hyfforddwr Cymru Sean Lynn wedi dweud bod angen i Gymru "godi'r safon" yn erbyn yr Eidal yn eu gêm olaf yn y Chwe Gwlad eleni.
Dyw Cymru heb ennill yn eu naw gêm ddiwethaf yn y bencampwriaeth, gyda'u buddugoliaeth ddiwethaf yn erbyn eu gwrthwynebwyr ddydd Sul yn 2024.
Cymru sydd ar waelod y bencampwriaeth cyn eu gêm olaf. Fe fydd angen buddugoliaeth yn erbyn yr Eidal arnyn nhw, a bydd angen i’r Alban golli yn erbyn Iwerddon heb bwynt bonws, i osgoi y llwy bren.
Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd Lynn bod safon ei garfan wedi gwella drwy gydol y gystadleuaeth, a'u bod nhw'n gwybod "beth sydd angen ei wneud" i sicrhau buddugoliaeth ddydd Sul.
“Ry’n ni i gyd yn gwybod beth sydd yn y fantol yn y gêm olaf hon o’r Chwe Gwlad," meddai.
"Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar barhau i godi safon ein chwarae, fel sydd wedi digwydd drwy gydol y gystadleuaeth y tymor yma.
“Ry’n ni wedi cymryd camau sylweddol i’r cyfeiriad cywir hyd yn hyn yn y bencampwriaeth, ac rydyn ni’n gwybod yn iawn beth sydd angen i ni ei wneud yn y gêm olaf hon o’r gystadleuaeth."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2055234849024123209
Y garfan
Mae Seren Singleton, a enillodd ei chap cyntaf dros Gymru yn erbyn yr Alban ar ddechrau’r gystadleuaeth eleni, yn dychwelyd i'r cae ar yr asgell.
Does dim newid yn y blaenwyr o gwbl wrth i'r wyth chwaraewr a ddechreuodd yn erbyn Iwerddon gychwyn unwaith eto.
Y propiau Gwenllian Pyrs a Sisilia Tuipulotu, a’r bachwr Kelsey Jones, fydd rheng flaen Cymru am y bumed gêm brawf yn olynol.
Bydd Branwen Metcalfe a Georgia Evans yn parhau â’u partneriaeth newydd yn yr ail reng.
Yn y rheng ôl, y capten Bethan Lewis, y blaen-asgellwr ochr dywyll Jorja Aiono a Bryonie King fydd yn dechrau yn safle’r wythwr.
Mae’r mewnwr profiadol Keira Bevan a’r maswr Lleucu George yn parhau yn y safleoedd mewnwr a maswr.
Courtney Keight a Carys Cox fydd y canolwyr unwaith eto, gyda Singleton a Jasmine Joyce wedi eu dewis ar yr esgyll. Kayleigh Powell fydd yn dechrau yn safle’r cefnwr unwaith yn rhagor.
