Russell Brand yn euog o un cyhuddiad o dreisio a thri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol
Mae'r digrifwr Russell Brand wedi'i ganfod yn euog o un cyhuddiad o dreisio a thri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol.
Yn Llys y Goron Southwark ddydd Iau, daeth rheithgor i’r casgliad bod Brand, 51 oed, yn euog o’r pedwar cyhuddiad ar ôl trafod yr achos am wyth awr a hanner.
Roedd Brand yn wynebu cyfanswm o saith cyhuddiad: tri o dreisio, tri o ymosod yn rhywiol ac un o geisio cyflawni ymosodiad anweddus.
Daeth y rheithgor i'r casgliad ei fod yn ddieuog o ddau gyhuddiad o dreisio ac un cyhuddiad o geisio cyflawni ymosodiad anweddus.
Mae’r honiadau’n ymwneud â chwe menyw ac yn dyddio o’r cyfnod rhwng 1999 a 2009.
Mae gan bob un o’i ddioddefwyr yr hawl i aros yn ddienw am weddill eu hoes.
Dim emosiwn
Ni wnaeth Brand ddangos unrhyw emosiwn wrth i’r rheithgor gyhoeddi ei ddyfarniadau ddydd Iau, ar ddiwedd achos llys a barodd bron i bedair wythnos.
Daeth y rheithgor i’r casgliad fod Brand yn euog o gyffwrdd yn amhriodol â gweithiwr arall MTV yn ystod parti mewn bar yn Soho yn 2004, ond yn ddieuog o’i threisio wedyn mewn toiled.
Cafodd y digrifwr ei ganfod yn euog o gusanu a chyffwrdd yn amhriodol â gweithiwr Capital Radio ar ôl dod ar ei thraws mewn coridor yn 2005.
Cafodd ei ganfod yn euog o dreisio cefnogwraig 21 oed ar ôl cyfarfod â hi mewn sioe gomedi stand-yp yn yr Hammersmith Apollo yn 2009.
Cafodd hefyd ei ganfod yn euog o ymosod yn rhywiol ar weithiwr Channel 4 yn 2009, pan orfododd y fenyw i roi 'massage' iddo.
Daeth y rheithgor i’r casgliad bod Brand yn ddieuog o dreisio menyw mewn sioe gabaret ar gyrion cynhadledd y Blaid Lafur yn Bournemouth yn 1999.
Cafodd hefyd ei glirio gan y rheithgor o geisio llusgo gweithiwr MTV i mewn i doiled er mwyn ymosod yn anweddus arni yn 2001.
Ar ôl cyhoeddi’r dyfarniadau, dywedodd y barnwr Mr Ustus Bennathan: "Eisteddwch i lawr, Mr Brand.
"Mr Winter, Ms Karmy-Jones, o ran yr hyn sy’n digwydd nesaf, o ystyried y dyfarniad ar gyhuddiad chwech o leiaf, mae’n amlwg y bydd dedfryd o garchar am gyfnod sylweddol yn dilyn."
Ychwanegodd y barnwr y byddai’r gwrandawiad dedfrydu’n cael ei gynnal ddydd Llun.