Aberfan: Dyn yn y llys wedi i ffrwydron gael eu darganfod cyn ymweliad Brenhinol

Stefan Dale

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar ôl i ffrwydron gael eu darganfod ger yr ardd goffa yn Aberfan ddyddiau cyn ymweliad Brenhinol i'r pentref.

Mae Stephen Dale, 38 oed, wedi ei gyhuddo o greu sylwedd ffrwydrol gyda'r bwriad o beryglu bywyd neu ddifrodi eiddo.

Ar ôl i gais am fechnïaeth gael ei wrthod yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Iau, cafodd Mr Dale ei gadw yn y ddalfa.

Bydd y gwrandawiad nesaf yn yr achos yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Rhagfyr.

Fe wnaeth y Brenin Charles III, y Frenhines Camilla a Thywysog Cymru osod torchau yn yr ardd goffa yn Aberfan ar 21 Hydref.

Roeddynt yno i nodi 60 mlynedd ers y trychineb pan lithrodd tomen lo i lawr mynydd a tharo Ysgol Gynradd Pantglas ar 21 Hydref 1966.

Bu farw 144 o unigolion ar y diwrnod hwnnw - 116 ohonynt yn blant.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.