Married at First Sight UK: Channel 4 yn canslo'r gyfres yn dilyn honiadau o dreisio
Mae Channel 4 wedi cyhoeddi na fydd rhaglen Married at First Sight UK yn dychwelyd, yn dilyn ymchwiliad gan raglen Panorama y BBC i’r gyfres deledu realiti boblogaidd.
Roedd y rhaglen ar Channel 4 yn destun ymwchiliad Panorama yn gynharach eleni, a ddatgelodd honiadau o dreisio gan ddwy fenyw a fu’n aelodau o’r cast, tra bod trydedd fenyw wedi honni bod gweithred rywiol wedi’i chyflawni heb ei chaniatâd.
Siaradodd y tair menyw mewn rhaglen ddogfen Panorama a gafodd ei darlledu ym mis Mai ac yna ym mis Mehefin.
Cafodd aelod o gast Married at First Sight UK ei arestio ar amheuaeth o dreisio.
Mae’r dynion dan sylw wedi gwadu’r holl honiadau yn eu herbyn.
Cafodd adolygiad gan Channel 4 ei gomisiynu yn fuan ar ôl i’r BBC gysylltu â’r darlledwr am y tro cyntaf, gyda manylion yr honiadau yr oedd wedi cael gwybod amdanyn nhw.
Mae Channel 4 bellach wedi cadarnhau na fydd y gyfres yn dychwelyd, a dywedodd prif weithredwr y darlledwr, Priya Dogra, y bydd cyllideb y rhaglen yn cael ei hailfuddsoddi mewn "rhaglenni newydd unigryw".
Ailadroddodd ei hymddiheuriad i'r menywod a fu'n rhan o'r ymchwiliad am y "trallod" sy'n amlwg wedi'i brofi.
Adolygiad
Cafodd yr adolygiad ei rhannu'n ddwy ran: un dan arweiniad cwmni cyfreithiol oedd yn edrych ar y sut yr aeth Channel 4 ati i ymdrin â’r honiadau, a’r ail yn canolbwyntio ar y trefniadau lles ar Married at First Sight UK (MAFS UK).
Cafodd 31,172 o ddogfennau ac 20 awr o ddeunydd ffilmio ei adolygu - oedd yn gyfuniad o gynnwys wedi a heb ei ddarlledu.
Fe gyhoeddodd cwmni cyfreithiol Clyde & Co rhan gyntaf yr adolygiad, ond dim ond “crynodeb o’r canfyddiadau a’r argymhellion” sydd wedi’i gyhoeddi, yn hytrach na’r adroddiad llawn.
Roedd trefniadau lles Channel 4 a CPL yn cydymffurfio â Chod Darlledu Ofcom
- Nid oedd y Cod wedi'i dorri o ran sut aeth Channel 4 ati i ymdrin â'r materion gafodd eu codi
Ond, fe wnaeth yr adolygiad nodi bod achosion unigol wedi bod lle na chafodd y fframwaith lles ei weithredu'n llawn, ac y gallai Channel 4 a CPL fod wedi cynnal adolygiad mwy strwythuredig a hir-dymor ar draws sawl cyfres o'r rhaglen.
Hynny, a bod rhai meysydd lle byddai cryfhau'r fframwaith lles ar gyfer cyfranogwyr ymhellach wedi gallu bod.
Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell adolygiad i'r nifer o weithiau yr oedd cyplau'n cael eu holi am elfennau corfforol eu perthynas, ac yn argymell gwneud newid i'r penderfyniad o ddewis neu adael, ble roedd yn rhaid i'r cwpwl parhau yn y gyfres er bod un aelod wedi dewis i adael.
Daeth adolygiad Heggessey i'r canfyddiad fod protocolau lles y gyfres yn “helaeth, yn hynod drylwyr ac o safon uchel iawn”, gan ychwanegu y byddai'n rhesymol parhau i gynhyrchu cyfresi pellach o'r rhaglen, pe bai gwelliannau'n cael eu gwneud i'r fframwaith presennol ar gyfer diogelu lles cyfranogwyr, ynghyd ag addasiadau i fformat y rhaglen.
'Wedi cyrraedd ei therfyn'
Ond dywedodd y Prif Weithredwr Priya Dogra bod y darlledwr wedi penderfynu mai'r “cam cywir oedd dod â MAFS UK ar Channel 4 i ben”.
Dywedodd: “Mae lles pawb sy'n cymryd rhan yn ein rhaglenni yn un o'n prif flaenoriaethau.
“Er bod yr adolygiad wedi canmol y camau lles sydd ar waith, ac nad oedd wedi canfod bod Channel 4 wedi torri Cod Ofcom na bod fformat y rhaglen yn anniogel yn ei hanfod, mae'n rhaid i mi ystyried pryd yw'r amser iawn i Channel 4 symud ymlaen o fformat penodol.
“Mae'r argymhellion yn gwbl synhwyrol ac yn ymarferol, ond wrth ystyried eu gweithredu'n llawn, fe gododd hynny gwestiynau sylfaenol ynghylch natur olygyddol rhaglen sydd, yn fy marn i, bellach wedi cyrraedd ei therfyn ar ôl 10 mlynedd.”
Wrth gyfeirio at y tair menyw a wnaeth yr honiadau ar raglen Panorama, dywedodd Ms Dogra hefyd ei bod yn “ddrwg iawn" ganddi am y "gofid y mae'r menywod hynny'n amlwg wedi'i deimlo”.
“Rwy'n gobeithio bod ein gweithredoedd – drwy gomisiynu'r adolygiad yn gyflym a chymryd camau clir a phendant – yn dangos ein hymrwymiad i les pawb sy'n cymryd rhan yn ein rhaglenni, a'n hawydd i barhau i gryfhau safonau'r diwydiant,” meddai.