Dafydd Jenkins ac Archie Griffin yn dychwelyd i dîm Cymru i wynebu Japan

Llun: Asiantaeth Huw Evans
Dafydd Jenkins a Archie Griffin

Mae Dafydd Jenkins ac Archie Griffin wedi eu cynnwys yn nhîm Cymru i wynebu Japan yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Fe fydd y ddau yn chwarae ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd am y tro cyntaf eleni ar ôl methu tair gêm gyntaf y gystadleuaeth oherwydd anafiadau.

Mae'r prif hyfforddwr Steve Tandy wedi dewis Jenkins yn yr ail reng ochr yn ochr â Ben Carter, sydd hefyd yn dychwelyd i'r tîm wedi anaf.

Fe fydd Griffin yn dechrau fel prop pen tynn, gyda Nicky Smith yn cychwyn gêm am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth fel prop pen rhydd.

Bydd y capten Dewi Lake yn dechrau fel bachwr.

Yn y rheng ôl, mae Alex Mann, Jac Morgan ac Aaron Wainwright wedi eu dewis, tra bydd Tomos Williams a Sam Costelow yn dechrau fel haneri.

Mae Max Llewellyn ac Eddie James wedi eu dewis yng nghanol cae gyda Louis Rees-Zammit a Josh Adams ar yr esgyll a Blair Murray yn gefnwr.

Mae Louie Hennessey ymhlith yr eilyddion a gallai wneud ei ymddangosiad cyntaf yn Stadiwm Principality, ar ôl ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn gynharach eleni.

Wrth gyhoeddi'r tîm, dywedodd Steve Tandy fod "llawer o gystadleuaeth am lefydd o fewn y garfan, a dyna lle rydyn ni eisiau bod."

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at fod yn ôl adref," meddai.

"Rydyn ni eisiau mynd allan yna ddydd Sadwrn, rhoi ein stamp ar y gêm a dechrau cam nesaf ein hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd yn gryf."

Bydd y gêm yn dechrau am 16:40 ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd.

Mae Cymru yn bumed y gynghrair hemisffer y gogledd ar hyn o bryd, gyda phum pwynt o dair gêm.

Fe ddechreuodd y tîm y gystadleuaeth newydd gyda buddugoliaeth o 39-24 dros Fiji ym mis Gorffennaf, cyn colli 35-21 yn erbyn yr Ariannin a 43-0 yn erbyn De Affrica.

Dyma fydd y pedwerydd tro i Gymru wynebu Japan mewn 18 mis.

Fe enillodd Cymru ddwy o'r tair gêm ddiwethaf rhwng y gwledydd, gan gynnwys buddugoliaeth ddramatig o 24-23 yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd y llynedd.

Cic gosb Jarrod Evans ar ddiwedd y gêm honno wnaeth sicrhau buddugoliaeth gyntaf Steve Tandy fel prif hyfforddwr Cymru, gan ddod â rhediad o 10 colled gartref i ben.

Cyn hynny, fe gollodd Cymru 24-19 yn erbyn Japan ym mis Gorffennaf 2025, cyn ennill yr ail brawf 31-22 wythnos yn ddiweddarach.

Bydd y gêm yn fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 16:00 ddydd Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.