Russell Brand yn dweud fod honiadau o dreisio wedi cael effaith 'ddinistriol' arno

Llun: PA
Russell Brand

Mae'r digrifwr Russell Brand wedi dweud wrth lys fod yr honiadau o dreisio ac ymosod yn rhywiol yn ei erbyn wedi cael effaith 'ddinistriol' ar ei fywyd.

Dechreuodd y dyn 51 oed roi tystiolaeth yn Llys y Goron Southwark yn Llundain fore Mercher, gan wadu'r saith cyhuddiad yn ei erbyn.

Mae Brand yn wynebu tri chyhuddiad o dreisio, tri o ymosod yn rhywiol ac un o geisio cyflawni ymosodiad anweddus, mewn perthynas â chwe menyw rhwng 1999 a 2009.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Brand nad oedd wedi llwyddo i berswadio unrhyw un o'i ffrindiau na'i gyn-gydweithwyr oedd â thystiolaeth berthnasol i dystio ar ei ran.

Daeth honiadau yn ei erbyn i'r amlwg ym mis Medi 2023 yn dilyn ymchwiliad gan bapurau newydd The Sunday Times a The Times, a rhaglen Dispatches Channel 4.

Pan ofynnodd ei fargyfreithiwr, Ian Winter KC, beth oedd effaith yr honiadau ar ei ffrindiau a'i gydweithwyr, atebodd Brand: "Roedd yn ddinistriol."

Gofynnodd y bargyfreithiwr a oedd wedi llwyddo i berswadio unrhyw un oedd â thystiolaeth berthnasol i dystio o'i blaid.

Atebodd Brand: "Naddo."

Pan ofynnwyd a fyddai'r bobl hynny bellach yn fodlon cael unrhyw gysylltiad ag ef, atebodd: "Na."

Dywedodd hefyd fod ei 'fywyd cyfan wedi cael ei lyncu' gan yr honiadau, a'i fod wedi treulio cryn dipyn o amser yn ceisio cofio'r digwyddiadau.

Honnodd Brand ei fod wedi cael ei atal rhag mynd i Ysbyty Great Ormond Street i fod gyda'i fab bach tra oedd yn cael llawdriniaeth ar ei galon.

Yn ôl Brand, dywedodd yr ysbyty wrtho ef a'i wraig, Laura Gallacher, nad oedd modd iddo fod yn bresennol oherwydd y deunydd oedd wedi'i gyhoeddi amdano.

'Cydsyniad yn bwysicach na rhyw'

Yn ddiweddarach yn ei dystiolaeth, cafodd Brand ei holi am honiad iddo dreisio menyw ar ôl cyfarfod â hi ar gyrion cynhadledd y Blaid Lafur yn Bournemouth ym 1999.

Dywedodd ei fod wedi meddwl bod 'posibilrwydd o gael rhyw' ar ôl i'r fenyw ei wahodd i'w hystafell mewn gwesty.

Pan ofynnodd ei fargyfreithiwr a oedd cydsyniad yn bwysig iddo, atebodd Brand: "Mae cydsyniad yn sylfaenol, yn hanfodol, yn angenrheidiol, ac mewn sawl ffordd yn bwysicach na rhyw ei hun."

Roedd y fenyw wedi dweud wrth y llys fod Brand wedi gorymdeithio o gwmpas yr ystafell wely fel y cymeriad teledu Basil Fawlty, a'i fod wedi ei gorfodi i dynnu lluniau ohono.

Image
Russell Brand - Sketch 2810

Dywedodd Brand nad oedd yn cofio gwneud hynny, ond ei fod yn arfer 'bod yn wirion a dangos ei hun'.

Roedd y fenyw hefyd wedi honni bod Brand wedi dweud wrthi 'mae'n hwyl' wrth iddo ei threisio.

Wrth roi ei dystiolaeth, dywedodd Brand nad oedd ganddo lawer o brofiad rhywiol gyda menywod hŷn ar y pryd, ac y byddai wedi gofyn dro ar ôl tro a oedd y fenyw yn mwynhau cael rhyw gydag ef.

"Ydw i'n gwneud hyn yn iawn? Wyt ti'n hoffi hyn? Ydy hyn yn iawn? Wyt ti'n mwynhau hyn?" meddai, gan egluro mai dyna'r math o gwestiynau y byddai wedi'u gofyn er mwyn cael sicrwydd ei bod yn fodlon.

Dywedodd hefyd ei fod wedi rhoi ei gyfeiriad e-bost i'r fenyw gan ei fod yn gobeithio y byddai hi'n cadw mewn cysylltiad ag ef.

Honiadau eraill

Cafodd Brand ei holi hefyd am honiad iddo geisio ymosod yn anweddus ar fenyw arall yn stiwdios MTV yn 2001.

Mae'r fenyw yn honni iddo geisio ei llusgo i doiled yn y gwaith, ond iddi lwyddo i ddianc.

Dywedodd Brand nad oedd yn cofio'r digwyddiad honedig, ond pan ofynnwyd iddo a oedd wedi bwriadu ymosod arni heb ei chydsyniad, atebodd: "Wrth gwrs ddim."

Mae Brand hefyd wedi'i gyhuddo o gyffwrdd â bronnau gweithiwr arall i MTV mewn bar yn Soho yn 2004, cyn ei gorfodi i gyflawni rhyw geneuol arno mewn toiled.

Dywedodd wrth y llys nad oedd yn cofio cyfarfod â'r fenyw pan gafodd ei holi gan yr heddlu yn wreiddiol, ond ei fod bellach yn cofio rhywfaint am y cyfarfyddiad.

Dywedodd ei fod wedi ymweld â'r toiled yn y bar lle yr honnir bod yr ymosodiad wedi digwydd, ac wedi treulio amser yno'n myfyrio.

Yn ôl Brand, roedd yr ymweliad, ynghyd â gwylio cyfweliad y fenyw â'r heddlu, wedi ei helpu i gofio'r cyfarfyddiad.

Dywedodd ei fod yn cofio ffrind iddo'n ei gyflwyno i'r fenyw, a'i fod yn credu y byddai wedi fflyrtio â hi a rhoi canmoliaeth iddi.

Gwadodd yn bendant iddo gydio ym mron y fenyw yn fuan ar ôl cyfarfod â hi.

Pan ofynnwyd iddo a oedd cyffwrdd â bronnau menywod yn rhywbeth oedd yn ei gyffroi, atebodd: "Na."

"Nid dyna sut y byddwn i wedi ymddwyn. Mae'n amlwg yn droseddol, ond mae hefyd yn amlwg yn aflednais," meddai.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai hynny'n ffordd lwyddiannus o ddenu menyw, atebodd: "Dydw i erioed wedi rhoi cynnig arni, ond alla i ddim dychmygu y byddai'n gweithio."

Dywedodd Brand wrth y rheithgor ei fod yn cofio mynd i'r toiled gyda'r fenyw yn y bar yn Soho.

Ond gwadodd iddo gydio yn ei braich, ei llusgo neu ei gorfodi i fynd i'r toiled gydag ef.

Dywedodd ei fod yn cofio bod drws ciwbicl y toiled wedi'i gau, ond nad oedd yn cofio pwy oedd wedi'i gau na ble yn union yr oedd yn sefyll mewn perthynas â'r fenyw.

Y cyhuddiadau

Mae'r erlyniad wedi honni bod Brand wedi ymddwyn mewn ffordd ysglyfaethus, gan orfodi menywod i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol yn ystod ei ymdrech i gael rhyw gyda 5,000 o fenywod.

Mae chwe menyw wedi rhoi tystiolaeth yn yr achos, gyda'r cyhuddiadau yn ymwneud â digwyddiadau honedig dros gyfnod o ddegawd.

Yn ogystal â'r honiadau yn Bournemouth ac yn MTV, mae menyw arall yn honni iddo ei chusanu a chyffwrdd â hi yn rhywiol o flaen aelodau o'i griw yn 2005.

Mae hefyd wedi'i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar weithiwr Channel 4 yn 2009 drwy wthio ei ben i'w glin, ar ôl i gynorthwywyr y digrifwr ei gorfodi i roi tylino'r corff iddo.

Mae Brand hefyd wedi'i gyhuddo o dreisio cefnogwr 21 oed ar ôl cyfarfod â hi mewn un o'i sioeau comedi yn Hammersmith Apollo yn 2009.

Mae Brand yn gwadu'r holl gyhuddiadau.

Wrth gyrraedd y llys fore Mercher gyda'i wraig, dywedodd Brand wrth newyddiadurwyr ei fod yn 'ddiolchgar iawn mai heddiw yw'r diwrnod ar gyfer gwirionedd a chyfiawnder'.

Mae'r achos yn parhau.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.