O leiaf 30 wedi marw wedi gwrthdrawiad rhwng dau drên yn Sbaen
Mae degau o bobl wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng dau drên cyflym ger Madrid, prifddinas Sbaen, fore dydd Mercher.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y ddau drên cyflym rhwng trefi Mora ac Orgaz, ychydig i’r de o Madrid, toc wedi 09:00.
Mae arlywydd rhanbarth Castilla-La Mancha, Emiliano García-Page, wedi cadarnhau bod o leiaf 30 wedi marw.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth ranbarthol, Esther Padilla, y gallai nifer y marwolaethau gynyddu ymhellach.
Mae gweithredwr rheilffyrdd Adif wedi cadarnhau bod y digwyddiad wedi cynnwys trên Renfe a thrên arall sy’n eiddo i gwmni Iryo, sy’n gweithredu ar lwybr rhwng Madrid a Seville.
Roedd un o'r trenau yn cludo 146 o bobl, gan gynnwys un babi, gyda thrên cwmni Renfe yn cario 397 o deithwyr, yn ôl swyddogion.
Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaethau brys Sbaen wrth asiantaeth newyddion AFP fod “yr holl adnoddau’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd” sy'n cynnwys sawl criw tân, tri hofrennydd a dwy uned gofal dwys symudol.
'Wedi syfrdanu'
Mae Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sánchez, yn dweud ei fod wedi’i “syfrdanu gan y ddamwain drên ddifrifol.”
“Rwy’n cadw mewn cysylltiad cyson â’r Gweinidog Trafnidiaeth, a gyda llywydd Castilla-La Mancha,” meddai Sánchez ar X.
Fe ychwanegodd fod y gwasanaethau brys yn gweithio yn y fan a’r lle “i gynorthwyo’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio, a sicrhau eu diogelwch, mewn cydweithrediad â’r holl weinyddiaethau dan sylw”.
Dywedodd ei fod yn cydymdeimlo â'r holl ddioddefwyr a'u teuluoedd.
Mae Sánchez a gwleidyddion eraill yn Sbaen wedi canslo eu holl ymrwymiadau cyhoeddus heddiw, gan gynnwys ymgyrchu ar gyfer etholiadau seneddol y mis nesaf.
Bu farw 46 o bobl mewn damwain drenau arall yn Sbaen ym mis Ionawr eleni.
Nam ar y cledrau oedd yn gyfrifol am y ddamwain honno, ond mae adroddiadau cynnar ddydd Mercher yn awgrymu bod nam wedi bod mewn mecanwaith diogelwch yn yr achos angheuol diweddaraf.
