Rob Brydon i holi Tom Hanks i godi arian i’r digartref

Tom Hanks a Rob Brydon

Fe fydd y digrifwr o Gymru, Rob Brydon, a'r actor Americanaidd, Tom Hanks, yn dod ynghyd i godi arian i elusen sy'n helpu pobl ddigartref.

Bydd y ddau yn cwrdd yn seremoni Gwobrau Busnes Prydain yng Nghaeredin ar 29 Ebrill y flwyddyn nesaf.

Y nod fydd codi arian i Social Bite, un o brif elusennau'r Alban sy'n helpu pobl ddigartref.

Bydd cinio codi arian yng Ngwesty Gleneagles y noson cyn y seremoni. Rob Brydon a Fred MacAulay fydd yn cyflwyno'r gwobrau. Bydd seren Gavin and Stacey hefyd yn cyfweld â Hanks yn ystod y noson.

Mae sêr fel George Clooney wedi mynychu'r seremoni yn y gorffennol, ac mae'r digwyddiad yn codi miliynau o bunnoedd yn rheolaidd.

Dywedodd Josh Littlejohn, cyfarwyddwr y gwobrau a sylfaenydd Social Bite: “Mae Tom Hanks yn un o'r bobl fwyaf poblogaidd yn y byd, ac mae cael rhywun o'i fri i ymuno â ni yng Nghaeredin ar gyfer Gwobrau Busnes Prydain 2027 yn dipyn o gamp i'r Alban.

“Mae'r gwobrau wedi tyfu'n rhywbeth llawer mwy na chinio.

“Yn 2026, roedd y gwobrau'n dathlu'r gorau o fyd busnes Prydain. Rhwng y gwobrau a'n digwyddiad codi arian yn Gleneagles, fe godon ni dros £2m i helpu pobl i adael digartrefedd ar eu hôl am byth.

“Mae stori Tom ei hun, a'r straeon y mae wedi treulio ei yrfa yn eu hadrodd, yn sôn am werth trin pobl yn dda, dal ati a chael ail gyfle.

“Mae'n anodd meddwl am neb gwell i gyfleu ysbryd y noson.”

I ddechrau, agorodd Social Bite nifer o gaffis ledled yr Alban i gynnig bwyd a chyflogaeth i bobl ddigartref.

Wrth i'r elusen dyfu, fe wnaethon nhw adeiladu pentrefi i roi cartref i bobl yng Nghaeredin ac yn Rutherglen, yn Ne Swydd Lanark.

Mae gan yr elusen gynlluniau hefyd i agor canolfan adsefydlu breswyl yn Dundee.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.