'Rhywbeth i fod yn falch ohono’: Effaith Casualty ar Gymru wrth i’r gyfres ddathlu 40 mlynedd

Llun: BBC Studios
Casualty

Mae arwyddgan y gyfres yn un o’r rhai mwyaf adnabyddus ar deledu Prydain, ac mae cyfeirio at “ddechrau pennod o Casualty” wedi dod yn ffordd gyfarwydd o ddisgrifio sefyllfa lle mae rhywbeth ar fin mynd o’i le.

Ers pedwar degawd, mae’r gyfres wedi dod â seirenau, damweiniau a drama adran frys ysbyty i gartrefi ledled y DU.

Ond efallai nad yw pawb yn sylweddoli bod un o gyfresi mwyaf hirhoedlog y byd yn cael ei chynhyrchu yma yng Nghymru.

Casualty yw’r ddrama feddygol sydd wedi para hiraf yn y byd, ag eithrio’r opera sebon ddyddiol Americanaidd General Hospital.

Mae’r gyfres wedi cael ei chynhyrchu yn Stiwdios Porth Y Rhath, ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd, ers 2011, gan greu gwaith a chyfleoedd i griwiau, gweithwyr llawrydd a busnesau lleol.

Bellach, wrth iddi ddathlu 40 mlynedd ar y sgrin, mae’r rhai sydd wrth galon y cynhyrchiad yn edrych yn ôl ar ei hanes ac ymlaen at ei dyfodol yng Nghymru.

Image
Nest Gwenllian Roberts
Nest Gwenllian Roberts ar y set wrth ffilmio'r penodau sy'n dathlu'r deugain

Nest Gwenllian Roberts yw cynhyrchydd y ddwy bennod arbennig fydd yn nodi’r pen-blwydd.

Mae hi wedi gweithio ar Casualty ers pedair blynedd ac yn dweud bod presenoldeb y gyfres yng Nghymru yn rhywbeth y dylai’r wlad fod yn “ofnadwy o falch ohono.”

“Dw i’n ffodus o fedru dod i’r gwaith a dw i’n siarad Cymraeg yn y gwaith ar raglen sy’n darlledu ar rwydwaith y BBC,” meddai.

“Mae’n dangos bod yr iaith ddim yn rhwystr i be ’dan ni’n wneud.

“A dw i’n meddwl bod o’n rhywbeth fedrwn ni fod yn ofnadwy o falch ohono fo, bod ’na rhywbeth mor, mor fawr â hynny wedi glanio ar ein stepen drws ni.”

Ychwanegodd fod yna “deimlad Cymreig ar y llawr” wrth gynhyrchu’r gyfres, gyda rhai unedau cyfan weithiau yn defnyddio’r Gymraeg yn y stiwdio.

Dywedodd hefyd fod rhai o’r actorion sydd wedi ymuno â’r gyfres wedi mynd ati i ddysgu’r iaith. Yn eu plith mae Neet Mohan, sy’n chwarae rhan Rash Masum ac a ymddangosodd ar raglen S4C, Iaith ar Daith, yn 2023.

Image
Neet Mohan - Iaith ar Daith
Neet Mohan gyda Llŷr Ifans ar raglen Iaith ar Daith 

‘Mae fel dod adref’

Un o'r Cymry sydd yng nghast Casualty yw'r actores Di Botcher o Bort Talbot. Iddi hi, mae gweithio ar Casualty yng Nghaerdydd wedi rhoi cyfle iddi ddychwelyd i'r wlad wedi blynyddoedd yn gweithio yn Llundain.

Ymunodd â’r gyfres fel y parafeddyg Jan Jenning yn 2018, ar ôl i bennaeth Casualty ar y pryd ei gweld yn perfformio yn y sioe gerdd Follies yn y National Theatre yn Llundain a meddwl y byddai’n addas ar gyfer y rhan.

Cafodd alwad ffôn yn cynnig rôl lled-reolaidd iddi am dri mis.

“Felly ymunais i fel parafeddyg ym mis Ionawr 2018, ac wedyn daliais i afael â blaenau fy ewinedd,” meddai.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae Jan yn parhau yn y gyfres ac wedi dod yn ffefryn ymhlith y gwylwyr.

Dywedodd Di - sydd hefyd wedi serennu mewn rhaglenni Cymreig fel Belonging a Stella - fod dychwelyd i weithio yng Nghymru yn teimlo fel dod adref. 

"Fel mae unrhywun gyda'i bobol ei hun, mae na synnwyr digrifwch ry'ch chi'n ei rannu, mae na ryw deimlad cyfforddus wrth siarad â nhw."

Ond doedd clywed acenion Cymreig ar y teledu ddim mor gyffredin pan oedd hi’n dechrau ar ei gyrfa. 

Er bod gan Gymru arwyr adnabyddus fel Richard Burton a Tom Jones, dywedodd fod cymeriadau Cymreig ar y teledu ar un adeg yn cael eu portreadu drwy stereoteipiau, gan gynnwys glowyr.

Image
Jan Jenning Casualty
Mae Jan Jenning wedi bod yn un o hoelion wyth tîm y parafeddygon ers 2018 (Llun: BBC Studios)

"Dwi'n meddwl, gyda'r ffordd mae teledu wedi newid dros y blynyddoedd, mae'r hawl gan bobl i siarad yn eu hacenion naturiol nhw. Mae'n cael ei dderbyn," meddai.

"Mae'n rhoi haen arall o naturioldeb mewn ffordd i'r cymeriad."

Mae chwarae rhan Jan hefyd yn rhoi cyfle iddi bortreadu rhywun sy’n wahanol iawn iddi hi ei hun.

"Dw i wrth fy modd yn chwarae menyw sydd wrth y llyw sy'n gallu delio gyda'r holl argyfyngau. Dwi'n hollol wahanol. Dwi'n ofnadwy am wneud penderfyniadau!"

‘Gwaith drwy gydol y flwyddyn’

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y diwydiant teledu yng Nghymru angen dramâu fel hirhoedlog fel Casualty sy'n dychwelyd pob blwyddyn.

“Mae hyn wedi creu gwaith a chyfleoedd parhaus i griwiau Cymreig, gweithwyr llawrydd a’r busnesau sy’n cefnogi’r diwydiant sgrin,” meddai llefarydd.

“Mae dramâu sy’n dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn arbennig o bwysig i sector teledu a ffilm Cymru.

“Maent yn darparu gwaith drwy gydol y flwyddyn, yn helpu i gadw pobl brofiadol yn gweithio yng Nghymru, ac yn rhoi cyfle i griwiau ddatblygu eu sgiliau a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.”

Image
Llun: BBC Studios
Llun: BBC Studios

Ychwanegodd y Llywodraeth fod y cynhyrchiad hefyd yn rhoi gwaith i gyflenwyr lleol, cyfleusterau a gwasanaethau arbenigol.

Ar hyn o bryd mae mwy na 3,500 o fusnesau yn gweithredu yn y sectorau creadigol sy’n cael eu cefnogi gan Cymru Greadigol, gan gyflogi mwy na 35,000 o bobl.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, cynhyrchodd y sector drosiant blynyddol o £1.5 biliwn yn 2023, cynnydd o fwy na 10% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Atgofion yn blentyn

Darlledwyd pennod gyntaf Casualty ar BBC One ar 6 Medi 1986.

Dywedodd Nest ei bod wedi gwylio’r gyfres ers pan oedd hi’n blentyn.

“O’n i’n dair oed pan oedd y bennod gyntaf Casualty yn mynd allan, so dw i wedi tyfu fyny efo’r gyfres,” meddai.

“Dw i’n cofio un o atgofion cyntaf fi o’r gyfres oedd bod yn hogan bach yn cropian lawr y grisiau, yn sbio drwy gil y drws, yn gwylio rhywbeth o’n i ddim yn teimlo o’n i fod i wneud achos o’n i’n rhy ifanc.”

Image
Nest Gwenllian Roberts
Ymunodd Nest Gwenllian Roberts â thîm Casualty yn 2022

Roedd Di hefyd yn cofio gwylio’r gyfres pan ddechreuodd hi.

"Dwi'n cofio meddwl, dyw drama meddygol ddim yn siwtio fi ond ges i fy nhynnu mewn iddo. Roedd 'na rywbeth ymhob pennod fyddai'n gwneud i mi grio." meddai.

Adlewyrchu cymdeithas

Yn ei barn hi, mae'r gyfres yn ddyfnach na drama am ysbyty yn unig ac yn llwyddo i greu cysylltiad emosiynol â’r gynulleidfa.

"Dw i’n credu ei bod hi wedi gwneud gwaith da o adlewyrchu cymdeithas," meddai.

Mae hyn yn cynnwys ymdrech i fod yn gynhwysol yn eu penderfyniadau castio.

"Os oes gan gymeriad gyflwr penodol, maen nhw’n dod o hyd i actor sydd â’r cyflwr hwnnw i chwarae’r rhan,” meddai Di.

Un enghraifft o hyn yw’r actores fyddar Gabriella Leon, a chwaraeodd Jade Lovall, cymeriad byddar rheolaidd cyntaf y gyfres.

Ymhlith y straeon sydd wedi aros gyda Di mae hanes Gethin, cyn-ŵr Jan, oedd â chlefyd motor niwron.

Ar ôl iddo ofyn am gymorth i deithio i glinig Dignitas yn y Swistir, penderfynodd Jan ei helpu er gwaethaf ei theimladau cymhleth tuag ato.

Image
Jan a Gethin - Casualty
Jan a Gethin, ei chyn-ŵr oedd wedi derbyn diagnosis o glefyd motor niwron ar Casualty (Llun: BBC Studios)

Roedd y stori’n archwilio ei gyflwr, ei awydd i roi diwedd ar ei fywyd ar ei delerau ei hun, ac effaith hynny ar Jan a’i theulu.

"Yn amlwg, roedd hwn yn un o'r achlysuron lle nad oedd modd cael actor oedd yn byw gyda'r cyflwr i chwarae'r rhan ond fe wnaeth y gyfres godi ymwybyddiaeth o'r clefyd," meddai Di. 

Dwy bennod arbennig

Bydd y pen-blwydd yn cael ei nodi gyda dwy bennod arbennig nos Sadwrn, fydd â un llygad ar hanes y gyfres, ond sydd hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer ei dyfodol.

Yn ôl Nest, bydd y penodau’n cynnwys popeth y byddai gwylwyr yn ei ddisgwyl gan Casualty, gan gynnwys argyfyngau, cleifion, chwerthin, dagrau a chyfeiriadau at orffennol y gyfres.

“Mae lot o bethau’n adleisio o’r gorffennol, pethau ti wedi gweld yn ystod y 40 mlynedd diwetha,” meddai.

“Ond hefyd mae o’n gyfle i ni fel cyfres fynd, ‘Do, ’dan ni wedi bod yma ers 40 mlynedd, ond ’dan ni hefyd yma i’r 40 mlynedd nesa.’”

Mae un o’r golygfeydd yn adleisio pennod gyntaf y gyfres, oedd yn dangos Charlie Fairhead yn gyrru i’w shifft gyntaf mewn Volkswagen Beetle melyn.

Image
Charlie Fairhead ac Ethan
Mae'r nyrs Charlie Fairhead a'r meddyg Ethan Hardy yn dychwelyd i Holby City ar gyfer y penodau arbennig (Llun: BBC Studios)

Dywedodd Nest y bydd modd i wylwyr newydd fwynhau’r penodau heb fod angen gwybod holl hanes y cymeriadau.

“Fedri di bendant wylio dwy bennod y pen-blwydd a chael adloniant pur, a mynd ar siwrne emosiynol, a teimlo bod chdi wedi gwylio ffilm,” meddai.

“Fedri di deimlo bod chdi wedi cael slice o hanes heb orfod buddsoddi gormod ynddo fo.”

Y stori i symud i Gymru

Er bod Casualty wedi cael ei ffilmio yng Nghaerdydd ers 15 mlynedd, yn ninas ddychmygol Holby yn ne-orllewin Lloegr y mae’r stori wedi parhau i gael ei gosod.

O 2027 ymlaen, bydd y lleoliad yn newid i ysbyty dychmygol yng Nghymru, gyda’r gyfres yn adlewyrchu’r wlad a realiti’r GIG yng Nghymru.

Bydd Stiwdios Porth Y Rhath yn parhau’n gartref i’r cynhyrchiad.

Image
Stiwdios Roath Lock
Llun: Chris Sampson

Mae BBC Studios wedi ennill cytundeb i gynhyrchu tair cyfres arall o’r ddrama, gyda’r penodau o dan y cytundeb yn parhau tan hydref 2029.

Ni wnaeth Nest ddatgelu manylion am y newid, ond dywedodd fod y gyfres “mewn iechyd da” er gwaethaf yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant teledu.

“Bob tro ’dan ni’n codi’r bar, mae pawb yn awyddus i neidio drosto fo a gofyn, ‘Be nesa?’

“A dw i’n meddwl bod hynny’n fesur llwyddiant y gyfres i’r dyfodol.”

Wrth edrych yn ôl dros ei pherthynas â’r rhaglen, dywedodd Di ei bod yn falch o fod wedi mynd o fod yn wyliwr, i fod yn actores wadd, ac yna’n aelod rheolaidd o’r cast.

“Mae'n ddarn o hanes teledu,” meddai. “Dw i mor falch o fod yn rhan ohoni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.