Y Rhyl: Dros 80 mlynedd o garchar i bump o bobl am gamfanteisio'n rhywiol ar blant
Mae pump o bobl a gafwyd yn euog o droseddau yn ymwneud â chamfanteisio rhywiol ar blant wedi cael dedfrydau o fwy nag 80 mlynedd yn y carchar.
Fe wnaeth pedwar dyn ac un ddynes ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener ar gyfer eu dedfrydu.
Cafwyd y pump yn euog ym mis Awst yn dilyn achos llys am tri mis a oedd yn ymwneud â chamfanteisio tair merch yn eu harddegau a'u cam-drin yn y Rhyl rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2024.
Roedd y dioddefwyr rhwng 14 ac 16 oed ar adeg y troseddau, a ddigwyddodd mewn ceir, cartrefi a busnesau ar draws Sir Ddinbych.
Cafwyd Mustafa Iqbal, 43 oed, yn euog o dreisio dwy ferch, tra bod Mohammed Arshad, 36 oed, a Ziaullah Badshah, 25 oed, wedi’u cael yn euog o dreisio un o’r merched.
Fodca a chanabis
Dechreuodd y troseddu yn 2022 pan gyfarfu Iqbal â dwy o’r merched yn y Rhyl ac aeth â nhw i’w gartref.
Cyrhaeddodd Badshah ac Arshad yr eiddo. Yn ystod y noson, rhoddwyd canabis a fodca i’r merched.
Parhaodd y cyswllt rhwng y tri dyn a’r ddwy ferch, a daeth Jaswinder Singh, 61 oed, yn rhan o’r sefyllfa drwy yrru’r merched o amgylch a rhoi canabis iddynt.
Dros yr wythnosau canlynol, cyfarfu Iqbal, Arshad a Badshah â’r un ddwy ferch a’u cam-drin yn rhywiol.
Aeth Singh ag un o’r merched a gafodd ei cham-drin i Lundain, a chysylltodd unigolyn pryderus â’r heddlu.
Cysylltodd trydedd merch yn y Rhyl, a oedd eisiau prynu cyffuriau, ag Iqbal, a wnaeth ei threisio sawl gwaith dros gyfnod o dri mis.
Rhoddodd Iqbal gyffuriau i Sarah Gray, 53 oed, a oedd yn newydd i ardal y Rhyl, am iddi ganiatáu iddo ddefnyddio ei heiddo i gam-drin y drydedd ferch.
Amharodd Gray hefyd ar dystiolaeth drwy geisio golchi DNA i ffwrdd.
Cyflawnodd Iqbal drosedd hefyd mewn perthynas â phedwaredd merch yn ei harddegau, lle y torrodd Orchymyn Risg Caethwasiaeth a Masnachu a osodwyd gan lys ynadon, yn ei wahardd rhag cysylltu ag unrhyw un o dan 18 oed.
'Moment bwysig'
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Richard Sidney o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae diweddglo’r achos hwn yn nodi moment bwysig i’r tair dioddefwr, sydd wedi gorfod byw gyda chanlyniadau’r hyn a ddigwyddodd iddynt am gyfnod sylweddol o amser ac sy’n parhau i wneud hynny.
“Mae’r dedfrydau a gyflwynwyd heddiw yn adlewyrchu difrifoldeb troseddau’r grŵp a natur ddifrifol iawn y troseddau a gyflawnwyd yn erbyn y menywod ifanc hyn.
“Roedd yr ymchwiliadau hyn yn gymhleth ac yn cynnwys gwaith helaeth i ddeall beth oedd wedi digwydd, casglu tystiolaeth, a sicrhau bod y rhai oedd yn gyfrifol yn cael eu dwyn gerbron y llys.
“Rwy’n cydnabod y gall y broses cyfiawnder troseddol fod yn anodd dros ben i ddioddefwyr camfanteisio rhywiol, yn enwedig pan fydd gofyn iddynt ail-fyw profiadau trawmatig.
"Mae’r dewrder a ddangoswyd gan y dioddefwyr drwy gydol yr ymchwiliadau hyn a’r achos llys a ddilynodd yn rhyfeddol.
“Rwy’n gobeithio bod canlyniad heddiw yn rhoi rhyw fath o ymdeimlad o gyfiawnder iddynt ac yn eu galluogi i edrych tua’r dyfodol gyda mwy o hyder.”
'Dewrder dioddefwyr'
Dywedodd Louisa Robertson o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Manteisiodd Iqbal, Arshad a Badshah yn rhywiol ar y plant hyn gan ddefnyddio alcohol a chyffuriau i’w gorfodi.
“Roedd Singh a Gray wedi chwarae rhan mewn ecsbloetio merched oedd yn agored i niwed.
“Mae unrhyw gam-drin rhywiol yn ffiaidd, ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd pob cyhuddiad o gam-drin o ddifri.
“Dangosodd dioddefwyr y troseddau dychrynllyd hyn ddewrder mawr wrth siarad yn erbyn eu camdrinwyr, a’u cryfder nhw sydd wedi ein galluogi i ddwyn pawb a gyhuddwyd o flaen eu gwell.”