Rhyfel Iran: Cwmni sy'n berchen ar ganolfan yn Sir Benfro yn rhoi'r gorau i gynhyrchu nwy
Mae cwmni Qatar Energy wedi cyhoeddi eu bod yn rhoi'r gorau i gynhyrchu eu nwy hylif naturiol LNG am y tro oherwydd ymosodiadau Iran ar rai o'u canolfannau.
Mae Qatar Energy yn gwmni sy'n cael ei redeg gan wladwriaeth Qatar ac mae'n berchen ar 67.5% o ganolfan LNG yn South Hook, Sir Benfro.
Mae ExxonMobil a TotalEnergies hefyd yn bartneriaid yn Sir Benfro.
Wrth gyhoeddi eu bod yn rhoi'r gorau i gynhyrchu LNG, dywedodd Qatar Energy fod ymosodiad ar eu hadnodddau yn Ras Laffan, sy'n ganolfan brosesu nwy ar y lan, yn ogystal â Mesaieed - canolfan allweddol arall yn Qatar ar gyfer cynhyrchu nwy.
Mae Qatar yn un o brif gynhyrchwyr nwy naturiol y byd, ynghyd ag America, Awstralia a Rwsia.
Mewn datganiad, dywedodd y cwwni: "Oherwydd yr ymosodiadau ar adnoddau Qatar Energy yn ninas ddiwydiannol Ras Laffan a Mesaieed yng ngwladwriaeth Qatar, mae Qatar Energy wedi rhoi'r gorau i gynhyrchu nwy hylif naturiol (LNG) a chynnyrch eraill sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwnnw.
"Mae QatarEnergy yn parchu eu perthynas gyda'u holl gyfranddalwyr a bydd yn parhau i gyfathrebu â nhw gyda'r wybodaeth ddiweddaraf."
Mae canolfan South Hook wedi ei lleoli ger Aberdaugleddau yn Sir Benfro. Dechreuodd weithredu ym mis Mawrth 2009, ac mae'n medru ymdrin â hyd at 20% o'r nwy naturiol y mae'r Deyrnas Unedig ei angen.
Yn fuan wedi'r cyhoeddiad gan Qatar Energy, fe gododd prisiau nwy yn Ewrop yn sylweddol.
Mae Saudia Arabia hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn cau rhai o'u hunedau ym mhurfa olew Ras Tanura yn nwyrain y wlad, ar ôl i dan gynnau yno yn ystod ymosodiad o'r awyr.
