Rhybuddion Argyfwng: 'Saesneg yn gyntaf' medd Andrew RT Davies

Rhybudd argyfwng

Mae aelod Ceidwadol o Senedd Cymru wedi galw am newid yn y ddeddf fel bod pobl yn derbyn rhybuddion argyfwng yn Saesneg ac nid yn Gymraeg yn gyntaf yn y dyfodol.

Fe wnaeth Andrew RT Davies yr alwad wedi i bobl dderbyn rhybudd am danau gwyllt ar ffonau symudol nos Wener.

Ymunodd Reform UK yn yr un alwad hefyd, gan ddisgrifio'r defnydd o'r Gymraeg yn gyntaf fel peth "peryglus."

Yng Nghymru fe gafodd pobl rybudd yn Gymraeg yn gyntaf, gyda'r neges Saesneg yn dod ychydig funudau wedyn.

Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am y negeseuon, yn dilyn tanau gwyllt ffyrnig yn Stourbridge, canolbarth Lloegr, a thanau gwyllt dinistriol yn ne a chanolbarth Cymru hefyd.

'Synnwyr cyffredin'

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol nos Wener, dywedodd Andrew RT Davies, sydd yn cynrychioli Pen-y-bont Bro Morgannwg ym Mae Caerdydd fod angen newid y gyfraith "er mwyn sicrhau fod rhybuddion argyfyngau a chyhoeddiadau pwysig eraill bob tro yn Saesneg yn gyntaf.

"Nid yw dros 80% o bobl Cymru yn siarad Cymraeg. Rhaid i synnwyr cyffredin ddod yn gyntaf."

Cymysg oedd yr ymateb i'w ddatganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda llawer yn ei gefnogi, ac eraill yn ei watwar gan ddweud y byddai gan Gymry Cymraeg fantais amlwg mewn trychinebau'r dyfodol.

Adroddodd rhai cyhoeddiadau yn y wasg Brydeinig am "banig" yng Nghymru wrth i'r larymau Cymraeg ganu yn gyntaf.

Aeth The Daily Mail mor bell a disgrifio "pandemoniwm" mewn tafarn JD Wetherspoon ym Mae Colwyn, gyda'r di-Gymraeg yn rhuthro i ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg i gyfieithu'r neges argyfwng cyntaf:

"Cododd panig mewn tafarn Wetherspoons (sic) yng Nghymru ar ôl i yfwyr o Loegr dderbyn rhybudd gan y Llywodraeth am y risg o danau gwyllt yn Gymraeg, ac nid oeddynt yn gallu ei ddarllen.

"Roedd Richard Williams, 77 oed, yn mwynhau peint gyda'i wraig yn The Picture House ym Mae Colwyn, Gogledd Cymru - lle nad yw ond 18% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg.

"Dim ond 0.2 y cant o boblogaeth Cymru sydd ddim yn siarad Saesneg o gwbl.

"Ni allai'r yfwyr o Loegr yn y dafarn ddarllen y cyhoeddiad, ac fe gododd anhrefn wrth i'r cwsmeriaid geisio'n daer a dod o hyd i siaradwyr Cymraeg i'w gyfieithu ar eu cyfer."

Fe anfonwyd y rhybudd wedi i danau gwyllt dinistriol losgi ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn dilyn cyfnod o dywydd sych ofnadwy.

Mae Cymru gyfan mewn statws sychder ar hyn o bryd.

Llun: PA/Llywodraeth y DU

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.