Pêl-droed: Beth yw gobeithion cefnogwyr timau Cymru yn yr EFL eleni?
Wedi misoedd o baratoi, gyda wynebau newydd yn cyrraedd a rhai yn gadael, fe fydd Wrecsam, Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn dechrau eu tymor yng nghynghreiriau'r EFL y penwythnos yma.
Mae Abertawe a Wrecsam yn paratoi am dymor arall yn y Bencampwriaeth, a Chaerdydd yn ymuno gyda nhw ar ôl ennill dyrchafiad o Adran Un, tra bod Casnewydd yn wynebu tymor arall yn Adran Dau.
Wrth i'r tymor o 46 o gemau gychwyn ddydd Sadwrn, beth yw gobeithion clybiau Cymru ar gyfer y tymor i ddod?
Wrecsam - Ai ennill dyrchafiad yw'r nod?
Y tymor diwethaf fe wnaeth Wrecsam barhau gyda'u llwyddiant drwy orffen yn y seithfed safle.
Fe ddaeth tîm Phil Parkinson mor agos i sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle, ond nid oeddynt yn gallu sicrhau buddugoliaeth ar ddiwrnod olaf y tymor.
Dros gyfnod yr haf mae'r clwb wedi herio rhai o dimau mwyaf Lloegr, gan gynnwys Leeds United, Manchester United a Lerpwl - a hyd yn oed wedi ennill yn erbyn Lerpwl a Leeds.
Ond colli oedd eu hanes yn rownd gyntaf Cwpan yr EFL ddydd Sadwrn diwethaf a hynny o 1-0 yn erbyn Middlesborough.
Fe fydd eu tymor eleni yn cychwyn yn erbyn un o glybiau eraill Cymru yn y Bencampwriaeth, sef Caerdydd.
Y nod eleni yn ôl un o gefnogwyr brwd y clwb, Elis Griffiths, yw sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle.
“Gobeithio gallwn ni adeiladu ar y tymor diwethaf a gwneud un cam yn well drwy gyrraedd y gemau ail gyfle," meddai wrth Newyddion S4C.
“Ond hefyd gobeithio y byddwn ni’n fwy cadarn yn yr amddiffyn ac yn ildio llai o goliau na'r tymor dwethaf hefyd.
"Gobeithio dyrchafiad fydd eleni, ond bydd bod yn gystadleuol yn y gemau ail gyfle yn dymor llwyddiannus. Rhaid adeiladu ar y tymor diwethaf."
Dros yr haf mae'r clwb wedi arwyddo tri chwaraewr newydd sydd â phrofiad o chwarae yn y Bencampwriaeth.
Yn eu plith mae Ben Whiteman, chwaraewr canol cae y mae Elis yn credu bydd yn allweddol eleni.
“Dwi’n meddwl mai prif chwaraewr Wrecsam y tymor yma fydd Ben Whiteman oherwydd bydd yn ddarn pwysig yng nghanol cae gyda’i basio er mwyn gallu newid y chwarae o amddiffyn i’r ymosod.
“Ac hefyd gobeithio y bydd yn creu goliau i chwaraewyr eraill fel Sam Smith ac Kieffer Moore.
"O ran chwaraewyr ifanc, ella mai ateb hawdd yw hwn, ond Callum Doyle yw’r chwaraewr ifanc y dylai cefnogwyr gadw llygad arno oherwydd ei fod yn amddiffynwr sy’n gadarn ar y bêl ac yn gryf yn yr awyr.”
Safle y tymor diwethaf: 7fed
Gêm gyntaf y tymor: Caerdydd (oddi cartref), nos Lun 17 Awst am 20:00
Trosglwyddiadau i mewn: Danny Imray (Crystal Palace), Ben Whiteman (Preston North End), Anthony Patterson (Sunderland)
Trosglwyddiadau allan: Lewis Brunt (Bolton Wanderers), Paul Mullin (diwedd cytundeb), Thomas O'Connor (diwedd cytundeb), Andy Cannon (diwedd cytundeb), Jay Rodriguez (diwedd cytundeb).
Caerdydd - yw'r Adar Gleision am fod yn 'gystadleuol' yn y Bencampwriaeth?
Ar ôl tymor aflwyddiannus yn 2024/25 roedd cwestiynau am allu Caerdydd i ddychwelyd i'r Bencampwriaeth y tymor canlynol.
Ond fe wnaeth yr Adar Gleision hedfan yn ôl i ail haen Lloegr heb lawer o drafferth.
Dan arweiniad Brian Barry-Murphy daeth Caerdydd yn ail yn y gynghrair tu ôl i Lincoln City.
Maen nhw wedi ennill eu gem gyntaf y tymor hwn yng Nghwpan yr EFL, a hynny 3-2 yn erbyn Swindon Town.
Hefyd fe gafodd cefnogwyr ganlyniad annisgwyl yn eu gemau cyn-dymor wedi iddyn nhw ennill 4-1 yn erbyn Roma, un o gewri'r Eidal.
Gwenllian Evans sydd wedi bod yn siarad gyda Newyddion S4C am obeithion ei chlwb eleni, ac er mai'r prif nod yw aros yn y gynghrair, mae hi'n gobeithio y gallai Caerdydd fod yn gystadleuol.
“Fi yn teimlo’n ffyddiog iawn am y tymor o’n blaenau ni," meddai.
“Fi’n gobeithio gallwn ni adeiladu ar y momentwm o dymor diwethaf dan Brian Barry-Murphy a chwarae’r un fath o bêl-droed, pêl-droed deinladol, ymosodol ar y droed flaen gan ddefnyddio’r talent ifanc sydd gyda ni.
“Gobethio gallwn ni fod yn gystadeuol y tymor yma yn wahanol i’r blynyddoedd diweddar yn y Bencampwriaeth."
Dau wyneb newydd yn unig sydd wedi cyrraedd y brifddinas dros yr haf, yn ychwanegol i'r gôl-geidwad Nathan Trott sydd wedi dychwelyd i'r clwb ar ôl tymor llwyddiannus ar fenthyg gyda Chaerdydd.
Mae hynny'n bryder i Gwenllian, a fyddai'n hoffi gweld ambell i chwaraewr arall yn ymuno a'r clwb.
“Fi’n credu hefyd bod llwyddiant ni yn ddibynnol ar bwy allwn ni gael mewn yn y ffenetsr drosgwylddo," meddai.
“Yn sicr ma' angen chwaraewyr newydd arnom ni, amddiffynnwr chwith yn benodol, ymosodwr arall ac asgellwyr o bosib.
“Ond hefyd mae chwaraewyr cryf gyda ni, y prif chwaraewr i edrych mas amdano eto yw Yousef Salech."
Safle tymor diwethaf: 2ail yn Adran Un (ennill dyrchafiad i'r Bencampwriaeth)
Gêm gyntaf y tymor: Wrecsam (cartref), nos Lun 17 Awst am 20:00
Trosglwyddiadau i mewn: Nathan Trott (Copenhagen), Thierry Katsukunya (Aston Villa), Jack Moylan (Lincoln City)
Trosglwyddiadau allan: Ryan Wintle (MK Dons), Michael Reindorf (Farnborough)
Abertawe - 'Adeiladu ar tymor diwethaf, ond yn becso am ddyfodol Zan Vipotnik'
I'r Elyrch roedd tymor a ddechreuodd llawn gobaith flwyddyn diwethaf wedi newid yn sydyn ar ôl i'r rheolwr Alan Sheehan gael ei ddiswyddo.
Fe gafodd Vitor Matos o Bortiwgal ei benodi'n rheolwr yn ei le, gan arwain y clwb i safle 11 yn y gynghrair.
Efallai mai oddi ar y cae oedd y digwyddiadau mwyaf cyffrous i Abertawe y llynedd, wrth i'r clwb gyhoeddi bod y rapiwr Snoop Dogg yn un o gyd-berchnogion newydd y clwb.
Penderfynodd deithio draw i wylio'r Elyrch ym mis Chwefror, gyda'r clwb yn herio Preston North End.
Ond gyda'r ffocws ar y cae, eleni bydd Abertawe yn llygadu'r safleoedd gemau ail-gyfle, a'r gobaith yw mai prif sgoriwr y clwb a'r Bencampwriaeth y llynedd, Zan Vipotnik fydd yn arwain y ffordd.
Eleni mae'r safleoedd yn ehangu o chwe thîm i wyth, gan olygu bod lle i ddau ddîm arall.
Credai Steffan Jones, cefnogwr Abertawe o Gaerfyrddin, mai sicrhau eu lle yn yr wyth uchaf yw'r nod.
“Nawr bod y gemau ail-gyfle wedi ehangu i’r timoedd sydd yn gorffen yn seithfed a wythfed, fi’n credu ma’ rhaid anelu at hynny," meddai wrth Newyddion S4C.
“Dyna fydd llwyddiant y tymor yma fi’n credu.
“Ni wedi gwario’n slyweddol dros yr haf, ond fi’n dal i gredu bod timoedd eraill fel West Ham a Middlesborough yn rhy gryf i Abertawe allu orffen yn y safleoedd i gael dyrchafiad awtomatig."
Mae un o brif chwaraewyr Abertawe, Ethan Galbraith wedi gadael y clwb dros yr haf, a phe bai Zan Vipotnik yn gadael, credai Steffan bod y prif gyfrifoldeb yn disgyn ar ysgwyddau Marko Stamenic yng nghanol y cae.
“Prif chwaraewr ni, os ma fe’n aros, fydd Zan Vipotnik, ond fi yn becso bach gan fod e heb chwarae lot dros yr haf oherwydd anaf.
“Os ma' fe yn gadael, bydden i’n gweud bod lot o gyfrifoldeb nawr 'fyd ar Marko Stamenic yng nghanol y cae.
“Yn enwedig gyda Ethan Galbraith wedi mynd i Stoke a Goncalo Franco wedi anafu am gyfndod.
“Ni wedi colli mas ar y gemau ail-gyfle am rai blynyddoedd bellach, a bydd e ddim yn sioc i fi weld hynny’n digwydd ‘to.
“Ond gyda newidiadau ar ac oddi ar y cae, fel prynu’r stadiwm, cynyddu refiniw, mae’r dyfodol yn edrych yn fwy disglair.”
Safle y tymor diwethaf: 11eg
Gêm gyntaf y tymor: Stoke City (oddi cartref), dydd Sadwrn 15 Awst am 15:00.
Trosglwyddiadau i mewn: Steven Welsh (Celtic), Moussa Yeo (Red Bull Salzburg), Staitham Bowen (Brentford), Joe Davies (Peterborough), Elijah Just (Motherwell), Joseph Opoku (Zulte Waregem), Ross Stewart (Southampton), Gregory Asemokhai (Brentford), Tiago Parente (Benfica - ar fenthyg)
Trosglwyddiadau allan: Ricardo Santos (Sheffield Wednesday), Ethan Galbraith (Stoke City), Liam Cullen (Caerlŷr), Cameron Congreve (Westerlo), Kyrell Wilson (Gent).
Casnewydd - Argoeli i fod yn dymor anodd eto
Roedd angen buddugoliaeth ddramatig ar yr Alltudion ar ddiwrnod olaf y tymor i gadw eu lle yn Adran Dau y tymor diwethaf.
Ond er gwaethaf y dathlu mawr y diwrnod hwnnw, mae llawer wedi newid.
Mae eu rheolwr, Christian Fuchs wedi gadael ac roedd sgoriwr y gôl wnaeth gadw eu statws yn Adran Dau, Bobby Kamwa, wedi codi pac yn ogystal.
Hefyd mae rhai o'u prif chwaraewyr gan gynnwys Matt Baker a Michael Spellman wedi gadael Casnewydd.
Nhw yw'r ffefrynnau i ddisgyn i'r Gynghrair Genedlaethol eleni, ac mae un o'u cefnogwyr, Matthäus Bridge yn credu bod gan yr Alltudion bwynt i'w brofi.
“Casnewydd yw’r bookies favourite i ddioddef esgyniad tymor yma, felly hoffwn i weld County’n profi nhw yn anghywir," meddai wrth Newyddion S4C.
"Llwyddiant byddai osgoi disgyn i’r Gynghrair Genedlaethol, ddylai hwnna bod y prif ffocws i Gasnewydd."
Un positif dros yr haf yw Harrison Biggins yn dychwelyd i'r clwb ar ôl cyfnod o chwe mis ar fenthyg.
Roedd yn hanfodol wrth gadw'r clwb yn Adran Dau, ac mae ei brofiad, gyda chymysgedd o egni'r chwaraewyr ifanc, yn rhywbeth mae Matthäus yn edrych ymlaen ato.
“Mae’n braf weld Harrison Biggins yn dychwelyd ar gytundeb parhaol, ac mae Lee Jenkins yn chwaraewr solid yn yr amddiffyn hefyd.
"Ac wrth gwrs mae chwaraewyr ifanc newydd, cyffrous fel Harri Pugh ac Alfie Merritt.
"Ni wedi llofnodi pedwar amddiffynwyr newydd i geisio gwella'r llinell cefn bregus.
"Dwi’n gobeithio y bydd tactegau ffresh hefo’r arddull chwarae'r rheolwr newydd Hayden Mullins yn helpu Casnewydd oroesi’r gwymp.”
Safle tymor diwethaf: 20fed
Gêm gyntaf y tymor: Rochdale (cartref), dydd Sadwrn 15 Awst am 12:30.
Trosglwyddiadau i mewn: Yahya Bamba (Forest Green Rovers), Harrison Biggins (Yr Amwythig), Kyle Cameron (Bromey), Christian Doidge (Forest Green Rovers), Kieron Evans (Eastleigh), Shaquille Gwengwe (Poole Town), Cameron Normal (Tranmere Rovers), Dan Sassi (Blackpool), Alfie Merritt (AFC Bournemouth - ar fenthyg).
Trosglwyddiadau allan: Lewis Jamieson (Ross County), Anthono Glennan (rhyddhau o gytundeb), Courtney Baker-Richardson (rhyddhau o gytundeb), Jaden Warner (rhyddhau o gytundeb), Nelson Sanca (rhyddhau o gytundeb), Jac Norris (rhyddhau o gytundeb), Riley Lonergan (rhyddhau o gytundeb), Michael Spellman (rhyddhau o gytundeb), Liam Shephard (Pen-y-bont), Bobby Kamwa (Bristol Rovers), Matt Baker (Notts County).