Rhybuddio ymwelwyr i fynyddoedd Eryri ar benwythnos Gŵyl Banc y Pasg
Mae ymwelwyr i Eryri dros benwythnos Gŵyl Banc y Pasg wedi eu rhybuddio y gallai’r tywydd newid yn gyflym wrth iddynt gerdded y mynyddoedd.
Dywedodd Timau Achub Mynydd Llanberis ac Ogwen eu bod nhw barod eleni wedi profi’r nifer uchaf o alwadau ar gofnod.
Daw eu sylwadau wrth i’r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer gwyntoedd cryfion ddydd Sadwrn a Sul.
Mae Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eisoes wedi derbyn chwe galwad ers dechrau gwyliau'r Pasg a nos Iau.
Mae Eryri yn gweld cynnydd sylweddol yn niferoedd ymwelwyr i’r Parc Cenedlaethol dros gyfnod y Pasg ac roedd hynny’n rhoi straen ychwanegol ar dimoedd achub mynydd, medden nhw.
Dywedodd Tim Harrop o'r tîm achub mynydd bod nifer o’r galwadau oedden nhw'n eu derbyn o ganlyniad i bobl ddim yn paratoi yn ddigon trwyadl ar gyfer yr amodau.
“Rydyn ni yng ngogledd Cymru, felly gall y tywydd newid yn gyflym iawn ac yn annisgwyl,” meddai.
“Edrychwch ar ragolygon y tywydd. Meddyliwch am eich gallu. Meddyliwch am eich hyder. Pryd aethoch chi i'r mynyddoedd ddiwethaf?
“Dewiswch lwybr sy'n briodol ar gyfer y tywydd, ar gyfer eich offer a hefyd ar gyfer eich hyder.
“Cofiwch, mi allwch o hyd droi’n ôl, mi fydd y mynyddoedd yno am byth.”
Ychwanegodd Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru Jamie Owens bod angen bod yn ystyrlon o drigolion lleol hefyd wrth ymweld.
“Os ydych chi’n cynllunio mynydda yn Eryri, sicrhewch eich bod a’r offer cywir a pheidiwch â chymryd risgiau heb fod angen, mi eith hynny ymhell i gynorthwyo ein cydweithwyr yn y timau achub mynydd,” meddai.
“Os ydych yn cynllunio cerdded gyda’r nos, os gwelwch yn dda gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’n dawel wrth gerdded trwy’r pentrefi er mwyn parchu’r trigolion.”
Parcio
Dywedodd Keira Sweenie Cyfarwyddwr Cynllunio a Phartneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bod angen i ymwelwyr fod yn ystyrlon o eraill wrth barcio.
“Gall meysydd parcio ledled Eryri lenwi’n gyflym yn ystod cyfnodau prysur, felly gall cyrraedd yn gynnar, ystyried trefniadau amgen a dewis lleoliadau llai prysur wella profiad pawb yn y Parc Cenedlaethol,” meddai.
“Mae maes parcio Pen y Pass yn gweithredu ar system rhagarchebu ac mae’n rhaid gwneud hynny o flaen llaw.
“Cynghorir modurwyr heb archeb i’r maes parcio penodol hwnnw beidio teithio i’r safle ond i ddefnyddio’r gwasanaeth parcio a theithio gwych sydd ar gael o Lanberis a Nant Peris.
“Gofynnwn i bawb ofalu am ein hamgylchedd drwy beidio â pharcio’n anghyfrifol a thrwy fynd â’u sbwriel adref.”
Dywedodd Gerwyn Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd (Trafnidiaeth) Cyngor Gwynedd ei fod yn annog pobl i ystyried dal bws neu drên i’r ardal.
“Byddwn yn annog pawb sydd am fwynhau’r hyn sydd gan Wynedd i’w gynnig i ystyried opsiynau i deithio drwy gludiant cyhoeddus ble mae modd,” meddai.
“Mae’r daith ar fws neu drên yn medru bod yn atyniad yn ei hun ac yn ffordd ffantastig i fwynhau’r golygfeydd godidog.
“Mae gwneud hyn hefyd yn lleihau problemau parcio a thagfeydd traffig sydd yn medru codi yn rhai o’r cyrchfannau mwyaf poblogaidd a lleoliadau amgylcheddol sensitif.
“I’r rhai sydd am deithio yn y car gofynnwn i fodurwyr gynllunio eu taith ymlaen llaw gan barcio’n synhwyrol a pharchu’r cyfyngiadau parcio a chadw’r ffyrdd yn ddi-rwystr a diogel i ganiatáu’r gwasanaethau brys i fedru gwneud eu gwaith ac i sicrhau llif traffig.
“Gyda’r tywydd gwael dros y Gaeaf wedi effeithio ar gyflwr nifer o lwybrau cyhoeddus Gwynedd, gan gynnwys gorfod cau ac ailgyfeirio rhai o’r llwybrau arfordir mae’n bwysig fod unrhyw un sydd am fentro ar y llwybrau hyn yn cymryd hyn i ystyriaeth gan gynllunio ymlaen llaw, osgoi’r ardaloedd sydd ar gau a gwisgo’n bwrpasol.”
