Rhybudd am stormydd mellt a tharanau mewn rhai ardaloedd o’r DU
Bydd y don wres sy’n effeithio ar rannau o’r Deyrnas Unedig yr wythnos hon yn parhau ddydd Mawrth.
Ond mae rhagolygon yn rhybuddio y gall stormydd mellt a tharanau ddatblygu mewn rhai ardaloedd wrth i’r tywydd ddechrau newid.
Mae ardaloedd yn sir Gaerwrangon a Suffolk yn Lloegr eisoes wedi cofnodi tri diwrnod yn olynol o dymheredd sy’n cyrraedd trothwy swyddogol ton wres. Y disgwyl yw y bydd ragor o ardaloedd yn nwyrain y wlad yn cyrraedd y trothwy hwnnw yn ystod ddydd Mawrth hefyd.
Mae rhybuddion iechyd melyn ac oren oherwydd y gwres mewn grym ar draws y rhan fwyaf o Loegr tan 09:00 ddydd Mercher.
Yn ôl rhagolygon, gall y tymheredd godi uwchlaw 30°C mewn rhai mannau, gan gynyddu’r risg i bobl fregus, gan gynnwys yr henoed a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd.
Er gwaethaf y gwres dwys, nid oes disgwyl iddo bara’n hir.
Mae newid yn y patrwm tywydd ar fin cyrraedd Cymru a Lloegr o ganol yr wythnos, gyda glaw a stormydd mellt a tharanau yn debygol mewn rhai rhannau o’r DU cyn i’r tymheredd ostwng yn raddol.
Mae'r tywydd poeth wedi golygu bod Cymru wedi cofnodi ei mis Gorffennaf sychaf ar gofnod.