Rhybudd rhieni am laeth fformiwla ar ôl darganfod 'pry genwair'
Mae rhieni o Abertawe yn annog pobl eraill gyda babanod i wirio cynnwys llaeth fformiwla Cow & Gate, gan ddweud iddyn nhw ddarganfod "pry genwair" mewn un o'r poteli.
Dywedodd Zowie Williams bod ei gŵr, Dai, wedi cael "andros o sioc" yn ystod oriau mân fore Mawrth wrth iddo ddarganfod "creadur wedi marw" yn y llaeth fformiwla yr oedd yn bwriadu ei roi i'w mab Tomi, sydd bron yn ddwy flwydd oed.
"Mi oedd 'na oglau ffiaidd ar y llefrith ag oedd o'n edrych fel bod 'na greadur wedi mynd i mewn iddo fo wrth ei gynhyrchu," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mi oedd o’n edrych fel worm, ac mi oedd o’n ddu... Os fysa'r worm heb ddod allan, y peryg ydi fysa Tomi bach wedi mynd yn sâl ofnadwy."
Dywedodd cwmni Danone, sy'n berchen ar Cow & Gate, eu bod yn "cymryd ein cyfrifoldeb dros rieni a'u babanod o ddifrif" a'u bod yn ymchwilio i'r gwyn.
Maen nhw'n dweud hefyd eu bod yn cynhyrchu eu llaeth fformiwla o dan safonau diogelwch bwyd llym.
'Dychrynllyd'
Mae Zowie a Dai wedi bod yn prynu llaeth fformiwla Cow & Gate ers i Tomi fod yn fabi bach.
Er eu bod fel arfer yn hapus gyda'r cynnyrch, dywedodd Zowie ei bod wedi gwirio bod y llaeth yn ddiogel ar ôl gweld bod rhai poteli yn cael eu galw'n ôl.
"Oeddan ni’n ffan mawr o'r llaeth, ond oeddan ni’n dalld bod Cow & Gate wedi gwneud recall ar eu llefrith yn ddiweddar," meddai Zowie.
"Felly pan oeddan ni’n prynu nhw, oeddan ni’n checio ar wefan y cwmni jyst i neud yn siŵr bod y llefrith yma’n iawn."
Mae Cow & Gate wedi bod yn gwneud cynhyrchion llaeth ar gyfer babanod ers dros 100 mlynedd.
Er iddynt ddechrau drwy gynhyrchu llaeth sych i blant yn 1904, fe aeth Cow & Gate ymlaen i ddatblygu llaeth fformiwla arbenigol yn y 1930au.
Ar ddechrau mis Chwefror, fe wnaeth Danone gyhoeddi eu bod yn galw nifer o gynhyrchion llaeth fformiwla Cow & Gate ac Aptamil yn ôl oherwydd y gallai'r tocsin cereulide fod yn bresennol mewn rhai o'r cynhyrchion.
Gall achosi i unigolyn sy'n ei fwyta i chwydu a chael poen bol a dolur rhydd.
Yn ôl Zowie, sy'n wreiddiol o Gaernarfon, nid yw'r llaeth fformiwla yr oedd wedi'i brynu ar restr galw'n ôl Cow & Gate.
"Dyla'r llaeth wedi bod yn iawn, felly duw â ŵyr be' ydi o a be' sy wedi digwydd ond mae’n ddychrynllyd iawn," meddai.
"Dwi jyst isho codi ymwybyddiaeth i rieni eraill i wneud yn siŵr bod y poteli 'ma yn hollol iawn a bo' nhw ddim am harmio ddim un babi arall."
A hithau'n feichiog gyda'i phedwerydd plentyn, dywedodd Zowie na fydd yn prynu cynnyrch Cow & Gate yn y dyfodol, ac mae hi'n galw ar gwmni Danone i ymddiheuro ac i alw'r poteli yn ôl fel mesur rhagofalus.
"Y peth cyntaf dyla nhw neud ydi disgyn ar eu bai ac ymddiheuro a gwneud i rieni deimlo at ease bod petha' fel hyn ddim yn mynd i ddigwydd," meddai.
"Mi fyswn i'n licio os fysa nhw’n rhoi recall ar y poteli ac i bawb ail checio’r llefrith, achos y prif beth yn fa'ma ydi codi ymwybyddiaeth achos efallai bod 'na fwy nag un o’r poteli 'ma allan yna a 'da ni jyst isho neud yn siŵr bod bob babi yn saff."
Ychwanegodd: "Mae angen iddyn nhw fod yn lot fwy gofalus a bod hylendid yn dod yn gyntaf iddyn nhw."
Dywedodd llefarydd ar ran Danone UK & Iwerddon: "Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb dros rieni a'u babanod o ddifrif.
"Rydym am sicrhau rhieni bod ein fformiwlâu babanod yn cael eu cynhyrchu o dan safonau diogelwch bwyd llym ac ansawdd uchel, ac yn destun rheolaethau trylwyr cyn gadael ein ffatrïoedd.
"Rydym yn ymchwilio i bob cwyn yn drylwyr a byddwn yn cadw mewn cysylltiad agos â Ms Williams wrth i ni ymchwilio ymhellach.
"Nid ydym wedi derbyn unrhyw gwynion tebyg eraill."