'Rhybudd olaf': Cyhoeddi camau ymyrraeth brys ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

'Rhybudd olaf': Cyhoeddi camau ymyrraeth brys ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r hyn a ddisgrifiwyd fel “rhybudd olaf” i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan rybuddio bod yn rhaid gweld gwelliannau sylweddol mewn gwasanaethau neu wynebu camau pellach.

Daw’r rhybudd ar ôl blynyddoedd ers i’r bwrdd iechyd gael ei roi mewn mesurau arbennig am y tro cyntaf yn 2015, oherwydd pryderon difrifol ynghylch arweinyddiaeth, llywodraethu ac ansawdd gwasanaethau.

Mae'r bwrdd wedi bod yn destun ymyrraeth Lefel 5 - y lefel uchaf o ymyrraeth - ers mis Chwefror 2023.

Bydd panel annibynnol yn adolygu meysydd, gan gynnwys diogelwch cleifion, arweinyddiaeth a diwylliant, ac yn adrodd yn ôl erbyn diwedd mis Hydref.

Er fod y llywodraeth yn cydnabod fod cynnydd wedi’i wneud mewn rhai meysydd dros y blynyddoedd, mae Gweinidog Iechyd newydd Cymru, Mabon ap Gwynfor yn dweud bod perfformiad y bwrdd iechyd yn parhau i fod yn annerbyniol mewn sawl maes allweddol. 

Amseroedd aros

Ymhlith y pryderon mwyaf mae amseroedd aros hir am driniaethau wedi’u cynllunio, pwysau parhaus ar adrannau brys, a mynediad at wasanaethau canser.

Dywedodd y gweinidog, fod pobl gogledd Cymru yn "haeddu gwasanaeth iechyd sy’n darparu gofal amserol, diogel ac o safon uchel". 

Pwysleisiodd hefyd fod disgwyl i’r bwrdd iechyd ddangos gwelliant cyflym a chynaliadwy yn ystod y misoedd nesaf.

Mae Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd i tua 700,000 o bobl ledled Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. 

Heriau

Dyma’r bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae wedi wynebu nifer o heriau dros y degawd diwethaf, gan gynnwys diffyg staff, pwysau ariannol cynyddol a galw cynyddol am wasanaethau.

Mae’r bwrdd iechyd wedi cydnabod bod llawer o waith yn weddill, ond mae’n dadlau bod cynnydd wedi’i wneud mewn nifer o feysydd. 

Yn ôl y sefydliad, mae trefniadau llywodraethu wedi’u cryfhau, mae mwy o sefydlogrwydd ymhlith yr uwch arweinwyr, ac mae gwaith yn parhau i leihau’r rhestrau aros hiraf. 

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu nad yw’r gwelliannau hynny ar eu pen eu hunain yn ddigon. 

Mae’r mater wedi arwain at alwadau gwleidyddol am fwy o atebolrwydd, gyda rhai yn dadlau nad yw naw mlynedd o fesurau arbennig wedi sicrhau’r newid y mae trigolion gogledd Cymru wedi bod yn ei ddisgwyl.

Yn y cyfamser, mae’r bwrdd iechyd yn dweud ei fod yn parhau’n ymrwymedig i adfer hyder y cyhoedd a darparu’r gwelliannau sydd eu hangen. 

Mae’r misoedd nesaf yn debygol o fod yn hollbwysig i ddyfodol y bwrdd iechyd ac i ddechrau llywodraeth newydd Plaid Cymru. 

Os na welir cynnydd digonol, mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y gallai ystyried ymyrraeth bellach, gan bwysleisio na ellir caniatáu i bobl gogledd Cymru aros yn hirach am y safon o ofal iechyd y maent yn ei haeddu. 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.