Taith bws newydd rhwng y gogledd a'r de 'i gymryd awr yn llai'

Taith bws newydd rhwng y gogledd a'r de 'i gymryd awr yn llai'

Bydd taith bws rhwng gogledd a de Cymru yn "cymryd awr yn llai" wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwasanaeth newydd.

Fe fydd y daith rhwng Bangor a Chaerfyrddin yn "cynnig dewis cyflymach" i deithwyr.

Mae disgwyl i'r gwasanaeth newydd ddechrau yn yr hydref.

Dywedodd Llywodraeth Cymru  y bydd y daith yn cymryd rhwng pedair awr a hanner a phum awr, gyda theithwyr dros 60 yn cael teithio am ddim.

Fe fydd y bysiau yn rhedeg bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin, gan alw yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron.

Ychwanegodd y Llywodraeth y bydd y gwasanaeth hefyd  yn "hwyluso trefniadau teithio" i dwristiaid sydd yn ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri, Pen Llŷn a Bae Ceredigion.

'Gwella cysylltedd'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, fod trafnidiaeth gyhoeddus Cymru "heb wasanaethu cymunedau gwledig" yn ddigon da ar hyd y blynyddoedd.

"Fe wnaethon ni addo yn ein cynllun 100 diwrnod y byddem yn paratoi i lansio gwasanaeth coets newydd sy'n cysylltu gogledd a de Cymru, ac rwy'n falch iawn o gadarnhau bod cynlluniau ar y gweill i gyflwyno'r gwasanaeth hwn yn yr hydref," meddai.

"Ers degawdau, nid yw trafnidiaeth gyhoeddus wedi gwasanaethu llawer o gymunedau gwledig yn ddigon da, ond y gwasanaeth coets newydd hwn yw'r cam cyntaf i wella cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru.

"Bydd y gwasanaeth yn cysylltu canolfannau rhanbarthol allweddol, gan redeg ochr yn ochr â gwasanaethau presennol, ac yn gwella gwasanaethau presennol gan gynnwys TrawsCymru, y rhwydwaith bysiau gwledig, a Fflecsi, i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull integredig ledled Cymru."

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd James O'Connell o blaid Reform UK nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion am gost tocynnau.

"Mae'n hen bryd ein bod ni'n gweld y gwelliannau hyn o ran teithio rhwng y gogledd a'r de," meddai.

"Mae cyhoeddiadau heddiw yn gam bach ond pwysig iawn i drwsio hynny, ond nid yw'r ymrwymiadau 100 diwrnod hyn yr ydym wedi clywed cymaint amdanynt yn ddim byd i frolio amdanynt.

"Er mwyn i'r gwasanaeth hwn allu cyflawni go iawn ar gyfer trigolion a hybu'r economi leol, rhaid iddo fod yn weithredol, rhaid iddo fod yn gyson a rhaid iddo fod yn ddibynadwy bob awr o'r dydd.

"Gallai gwasanaeth rhwng y gogledd a'r de fod yn ddewis arall gwirioneddol i deithio mewn car os yw'n fforddiadwy i deuluoedd, os yw'n fforddiadwy i fyfyrwyr ac os yw wedi'i brisio i gefnogi swyddi, twristiaeth a thwf economaidd ledled Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.