Rhybudd melyn am rew mewn grym i Gymru gyfan

Rhybudd am rew

Mae rhybudd melyn am rew yn parhau mewn grym i Gymru gyfan fore ddydd Sadwrn. 

Fe ddaeth y rhybudd i rym am 17.00 ddydd Gwener gan aros mewn grym dros nos, hyd at 10:00 ddydd Sadwrn. 

Mae’r rhybudd yn effeithio pob sir yng Nghymru gyda’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r rhew arwain at amodau teithio anodd. 

Maen nhw'n annog pobl sy’n bwriadu teithio i gynllunio o flaen llaw gan sicrhau nad yw’n rhuthro ac yn peryglu eu hunain. 

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y dylai pobl deithio ar hyd prif ffyrdd gan osgoi llwybrau sydd heb eu trin lle bod modd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.