Rhybudd melyn am eira i'r rhan helaeth o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira i'r rhan helaeth o Gymru brynhawn Mercher.
Bydd y rhybudd yn dod i rym am 16.00 ddydd Mercher ac yn parhau tan 06.00 ddydd Iau.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhai ardaloedd gwledig gael eu hynysu o ganlyniad i’r eira.
Gallai'r eira arwain at golli cyflenwadau trydan a phroblemau wrth deithio hefyd.
"Er bod rhywfaint o ansicrwydd am y manylion, mae'n bosib y bydd ardal o law ac eira yn effeithio ar rannau o Gymru a chanolbarth Lloegr yn ddiweddarach ddydd Mercher a dros nos i ddydd Iau," meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.
"Gallai rhwng 2-5 cm o eira ddisgyn yn eithaf eang uwchlaw 150-200 metr, gyda hyd at 10-15 cm o bosib uwchlaw 250-300 metr yng nghanol a de-ddwyrain Cymru, yn ogystal â Sir Henffordd a Sir Amwythig.
"Mae dipyn bach o eira’n bosib mewn mannau is, fel arfer llai na 2cm, yn enwedig o nos Fercher hyd at oriau mân fore Iau.
"Bydd gwyntoedd cryfion o'r dwyrain i'r gogledd-ddwyrain yn cyd-fynd â'r tywydd gwlyb, a allai waethygu'r effeithiau mewn mannau."
Bydd y rhybudd yn berthnasol ar gyfer y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Torfaen
- Wrecsam