Rhybudd y gallai ymchwiliad Horizon gael ei ohirio am bum mlynedd heb gyllid ychwanegol

Swyddfa Bost

Gallai’r ymchwiliad troseddol i sgandal Horizon Swyddfa’r Post gael ei ohirio am bum mlynedd heb filiynau mewn arian ychwanegol, yn ôl rhybudd gan uwch swyddog heddlu.

Dywedodd y pennaeth heddlu Stephen Clayman, sy’n arwain yr ymchwiliad cenedlaethol gan yr heddlu, y byddai angen bron dyblu maint y tîm ymchwilio er mwyn cyflwyno tystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron erbyn diwedd y flwyddyn nesaf neu ddechrau 2028.

Mae’r Swyddfa Gartref eisoes wedi darparu grant o £2.8 miliwn ar gyfer yr ymchwiliad, ond mae Mr Clayman yn honni bod angen mwy o arian ychwanegol "ar frys" i gyrraedd y targed o £19.3 miliwn.

Rhwng 1999 a 2015, cafodd tua 1,000 o is-bostfeistri eu herlyn ar gam wedi i feddalwedd system Horizon wneud iddi ymddangos bod colledion ariannol.

Yn eu plith yng Nghymru, roedd Noel Thomas o Fôn, a gafodd ei garcharu ar gam yn 2006 am gadw cyfrifon ffug yn Swyddfa'r Post yn Y Gaerwen.

Bu'n rhaid i Cled Jones o Wynedd dalu dros £43,000 o’i arian ei hun i dalu am golledion honedig yn Swyddfa'r Post Bethel er mwyn osgoi mynd i’r carchar.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Mr Clayman mai'r flaenoriaeth yw "sicrhau cyfiawnder i’r dioddefwyr a’r teuluoedd".

"Mae nifer o’r dioddefwyr hyn wedi bod yn byw gydag effaith hyn ers 24 mlynedd; mae rhai eisoes wedi marw ac mae llawer mwy yn cyrraedd henaint," meddai.

"I roi’r peth yn syml, nid oes gennym foethusrwydd amser ac mae’n rhaid i ni ddarparu atebion cyn gynted â phosib i’r rhai sy’n wir eu haeddu."

'Ymchwiliad hynod gymhleth'

Hyd yma eleni, mae’r heddlu wedi holi saith person, sy’n golygu bod 13 o’r 53 o bobl sydd dan ymchwiliad wedi cael eu holi.

Dywedodd Mr Clayman fod yr ymchwiliad yn "hynod gymhleth", gyda dros wyth miliwn o ddogfennau angen eu hadolygu’n fforensig.

"Dim ond drwy wneud hyn y gallwn roi darlun cyflawn o’r hyn a ddigwyddodd, sefydlu pwy oedd yn gwybod beth, a deall pa rôl y gallai'r rhai sydd dan amheuaeth fod wedi’i chwarae," meddai.

"Fel rydym wedi dweud erioed, mae’r trothwy ar gyfer dwyn cyhuddiadau troseddol yn uchel, felly mae’n rhaid i ni fod yn hyderus fod y dystiolaeth a gyflwynwn i Wasanaeth Erlyn y Goron â’r siawns orau bosib o fodloni’r trothwy hwnnw."

Image
Alan Bates
Y cyn is-bostfeistr Syr Alan Bates o Landudno oedd un o brif arweinwyr yr ymgyrch i gael cyfiawnder i is-bostfeistri a gafodd eu herlyn ar gam

Ychwanegodd Mr Clayman nad oes modd "tanamcangyfrif maint y dasg sydd o’n blaenau".

"Drwy’r llu o sgyrsiau rydym wedi’u cael gydag is-bostfeistri yn ystod ein hymchwiliad hyd yma, rydym wedi bod yn onest am yr heriau hyn a graddfa’r hyn sydd i ddod," meddai.

"Mae hyn yn cynnwys goresgyn heriau cyllido ar adeg pan fo lluoedd heddlu eisoes dan bwysau difrifol. Er mwyn cwrdd â’n hamserlen o gyflwyno ffeiliau ar gyfer penderfyniadau cyhuddo ddiwedd 2027/dechrau 2028, mae angen i ni ddyblu maint y tîm ymchwilio o 111 i 210.

"Heb hyn, rydym mewn perygl o weld ein hamserlenni’n cael eu gwthio’n ôl gymaint â phum mlynedd, rhywbeth yr ydym yn gwybod sy’n annerbyniol i’r rhai sydd eisoes wedi bod yn byw gyda hyn ers degawdau.

"Yn ddiweddar cawsom grant arbennig o £2.8 miliwn gan y Swyddfa Gartref, sy’n mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at gefnogi ein costau, ond y gwir amdani yw bod angen cyllid ychwanegol a pharhaus arnom ar frys i gyrraedd ein cyllideb o hyd at £19.3 miliwn ar gyfer 2026/27 a thu hwnt."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Roedd sgandal Horizon Swyddfa’r Post yn anghyfiawnder erchyll. 

"Mae’n bwysig bod lleisiau’r dioddefwyr yn cael eu clywed, bod yr achosion yn cael eu nodi drwy’r ymchwiliad cyhoeddus, a bod iawndal llawn a theg yn cael ei dalu’n gyflym i’r rhai sydd wedi ddioddef.

"Yn ogystal, mae Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a Gwasanaeth Heddlu’r Met yn cynnal ymchwiliad i drosedd bosibl yn yr erlyniadau yn erbyn is-bostfeistri ac i’r modd y cyflwynwyd system TG Horizon yn ehangach fel un gadarn a dibynadwy.

"Mae’r ymchwiliad hwnnw’n parhau."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.