Rhybudd y gallai ‘un sbarc’ achosi tanau gwyllt yng Nghymru wrth i’r tywydd poeth barhau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio bod y risg o danau gwyllt yn cynyddu wrth i dywydd poeth a sych barhau ar draws Cymru.
Mae’r corff yn dweud bod un sbarc neu wreichionen yn unig yn gallu cynnau tân sy’n lledaenu’n gyflym ac yn achosi difrod difrifol.
Daw hynny wrth i’r Swyddfa Dywydd ddweud y bydd y gwres ar ei anterth ddydd Iau a dydd Gwener, gyda thymheredd dros 30C yn debygol mewn sawl rhan o’r DU.
Dywedodd Sally Davies, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, fod llawer o bobl yn debygol o fynd i gefn gwlad i fwynhau’r heulwen dros y dyddiau nesaf.
“Er ein bod ni’n croesawu’r ffaith fod pobl yn manteisio’n llawn ar natur, rydyn ni’n gofyn i bawb wneud hynny’n ofalus ac yn ystyriol,” meddai.
“Mae'r risg o dân gwyllt yn cynyddu yn ystod y cyfnod sych a phoeth hwn, ac mae un wreichionen yn unig yn ddigon i gynnau tân a all ledaenu'n gyflym, gan achosi difrod dychrynllyd.
“Mae tanau gwyllt yn bygwth nid yn unig y tirweddau hardd rydyn ni i gyd yn eu gwerthfawrogi, ond hefyd y cynefinoedd cyfoethog a’r bywyd gwyllt maen nhw’n eu cynnal, a’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn.”
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rhybuddio bod fflamau agored a barbeciws tafladwy yn achosi perygl gwirioneddol yn yr amodau presennol.
Mae’r corff yn annog pobl i gael gwared ar unrhyw sbwriel, gan gynnwys poteli gwydr, mewn modd cyfrifol, ac i beidio â thaflu sigaréts ar y llawr.
Cynnydd yng ngogledd Cymru
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru am ffigurau diweddar ar danau gwyllt a thanau ar dir agored eleni.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei fod wedi ymateb i un digwyddiad a oedd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer tanau gwyllt, yn ogystal â 47 o danau glaswelltir, coetir a chnydau yn ystod mis Mehefin 2026.
Dywedodd y gwasanaeth fod hynny’n gynnydd o 47% o gymharu â’r un mis y llynedd.
Yn ôl y gwasanaeth, mae tanau gwyllt yn cael eu diffinio fel tanau sylweddol sy’n cynnwys ardal o o leiaf 10 hectar, sydd â fflamau parhaus o 1.5 metr, ac sydd angen o leiaf pedwar peiriant neu adnodd tân am gyfnod o chwe awr neu fwy.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd wedi cyhoeddi cyngor yn annog pobl i gadw’n ddiogel yn ystod y tywydd poeth.
Mewn datganiad fis diwethaf, fe wnaeth y gwasanaeth annog pobl i leihau’r risg o danau drwy beidio â defnyddio barbeciws tafladwy mewn ardaloedd agored, peidio â chynnau tanau, a mynd â sbwriel adref gyda nhw.
Mae Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân hefyd wedi rhybuddio bod tywydd poeth a sych yn cynyddu’r risg o danau gwyllt.
Dywedodd Dave Swallow, dirprwy arweinydd tanau gwyllt y cyngor, fod y rhan fwyaf o danau gwyllt yn dechrau oherwydd bod “rhywbeth yn creu’r wreichionen”.
“Boed hynny’n farbeciw tafladwy wedi ei adael ar ôl, sigarét wedi ei thaflu, neu hyd yn oed botel wydr wedi ei gadael yn yr haul, mae gan bob un ohonom ni rôl i’w chwarae wrth eu hatal,” meddai.
Mae disgwyl i’r tywydd poeth leddfu’n raddol dros y penwythnos ac i mewn i’r wythnos nesaf.
Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i ffonio 999 yn syth os ydyn nhw’n gweld tân yn dechrau.
