Uwch-dditectif yn Heddlu'r Gogledd yn wynebu carchar am edrych ar gofnodion yn anghyfreithlon
Mae uwch-dditectif wedi cael ei rhybuddio y gallai fynd i'r carchar ar ôl cael ei chanfod yn euog o gael mynediad anghyfreithlon at gofnodion heddlu yn ymwneud â ffrind gwrywaidd a thair menyw.
Roedd y Ditectif Arolygydd Emma Gardner, 46 oed, o Heddlu Gogledd Cymru, wedi gwadu cael mynediad heb awdurdod at ddeunydd cyfrifiadurol yn 2022.
Ond yn dilyn achos yn Llys y Goron Caernarfon daeth reithgor i'r casgliad ei bod yn euog o'r drosedd.
Dywedodd y Barnwr Timothy Petts: "Mae hwn yn drosedd anarferol, ac mae’n anarferol i mi fod yn delio ag uwch-swyddog sy’n gwasanaethu fel diffynnydd."
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bydd adroddiad cyn dedfrydu yn cael ei baratoi.
Ond dywedodd y barnwr wrthi: "Mae troseddau o’r fath gan swyddogion sy’n gwasanaethu yn cael eu trin yn ddifrifol iawn.
"Nid wyf yn dweud mai dedfryd o garchar yw’r unig opsiwn, ond bydd hynny’n flaenllaw yn fy meddwl."
Achos camymddwyn
Ymunodd y Ditectif Arolygydd Gardner â Heddlu Gogledd Cymru yn 2000.
Bu’n gwasanaethu mewn amryw o rolau, gan gynnwys gyda’r Uned Diogelu Pobl Agored i Niwed.
Dywedodd wrth y rheithgor ei bod wedi cael canmoliaeth am ei hymroddiad yn ystod un ymchwiliad.
Roedd ei chwymp yn gysylltiedig â rhannu gwybodaeth â dyn a oedd wedi gweithio fel dyn drws pan oedd hi’n swyddog heddlu yn y Rhyl.
Roedd y ddau wedi dod yn ffrindiau ar Facebook ac wedi cael perthynas rywiol ddwywaith.
Dywedodd yr erlynydd, Andrew Scott, fod y ditectif wedi cael mynediad at gofnodion yn ymwneud â "chŵyn gymharol ddibwys" yn ymwneud â’i ffrind, a oedd yn cael ei drin gan swyddogion.
Mewn un neges, roedd hi wedi datgan: "Mae gen i fy nefnyddiau."
Mynnodd y swyddog nad oedd wedi edrych ar y cofnodion oherwydd ei pherthynas ag ef.
"Rwy’n credu bod pob mynediad wedi bod at ddiben plismona," meddai’r Ditectif Arolygydd Gardner yn ei thystiolaeth.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Nigel Harrison: "Rydym yn cydnabod penderfyniad y rheithgor.
"Mae’r swyddog wedi’i hatal dros dro tra roedd yr achos troseddol yn mynd rhagddo, ac rydym nawr yn bwrw ymlaen ag achos camymddwyn."