Ysgol Gymraeg Llundain yn ‘cyrraedd targedau’ wrth gynyddu nifer y disgyblion
Ysgol Gymraeg Llundain yn ‘cyrraedd targedau’ wrth gynyddu nifer y disgyblion
Mae athrawes arweiniol Ysgol Gymraeg Llundain yn dweud bod yr ysgol yn "cyrraedd targedau" wrth i nifer y disgyblion gynyddu.
Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol 12 o ddisgyblion, a bydd pedwar o blant yn cychwyn yn y dosbarth meithrin ym mis Ionawr 2027.
Mae 15 o deuluoedd ac 20 o fabanod a phlant bach hefyd yng nghylch Miri Mawr.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae pryder wedi bod am ddyfodol yr ysgol, wrth i nifer y disgyblion ostwng ar ôl Covid-19.
Mae’r ysgol wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cymru sy’n werth £91,000 y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf, a hynny'n amodol ar gynyddu nifer y disgyblion.
Dywedodd Emilia Davies, athrawes arweiniol Ysgol Gymraeg Llundain, wrth Newyddion S4C fod y pedwar disgybl newydd yn dangos bod yr ysgol yn cyrraedd targedau.
"Pryd dechreuais i yn yr ysgol roedd chwech [disgybl] yma, ni nawr lan i 12, a ma’ ‘na pedwar gyda ni yn dechrau yn Ionawr, yn y meithrin," meddai.
"Ma’ llawer iawn o blant ni nawr yn y meithrin a ma’ gwaelod yr ysgol yn dechrau ffynnu.
"Felly dwi’n meddwl bod hwnna yn dangos bod ni yn cyrraedd y targedau yna a bod y niferoedd yn cynyddu.
"Ma’ fe’n edrych yn rili positif i ddyfodol yr ysgol."
'Heriau'
Mae Ysgol Gymraeg Llundain wedi ei lleoli yn Hanwell, yng ngorllewin Llundain.
Cafodd ei hagor ym 1958 gan grŵp o rieni oedd yn anfon eu plant i wersi Cymraeg yn Llundain bob bore Sadwrn. Ar ôl llawer o drafod a brwydro, roedd 30 o blant yn mynychu Ysgol Gymraeg Llundain.
Yn ystod ei hanes, mae'r ysgol wedi bod wedi ei lleoli yn Paddington, Camden Town, Willesden Green a Stonebridge Park, ac mae bellach wedi ei lleoli yng Nghanolfan Gymunedol Hanwell.
Ar un adeg, roedd 40 o ddisgyblion yn yr ysgol, ac mae Emilia Davies a'r staff eraill wrthi’n ceisio codi ymwybyddiaeth am fodolaeth yr ysgol ym mhrifddinas Lloegr.
"Ni ‘di bod yn neud llawer o waith y diweddar yn trio cael y gair allan am yr ysgol," meddai Emilia Davies.
"Ma’ Llundain yn lle fawr, a ma’ fe’n anodd weithiau i sicrhau bod pawb yn gwybod bod ni yma.
"Felly ma’ hwnna bendant yn her, sicrhau os ma’ na teuluoedd Cymraeg yn symud i Lundain bod nhw’n gwybod bod ni yma."
Ym mis Mawrth y llynedd roedd yr ysgol yn wynebu diffyg ariannol £2,500 y mis sef £30,000 y flwyddyn.
Mae ymgyrchoedd codi arian gan yr ysgol yn gyson, ac mae angen parhau i'w cynnal er mwyn "sicrhau dyfodol" yr ysgol.
"Ma’ lot o waith o ran codi arian yn digwydd, ma’r rhieni yn neud ymdrech ffantastig, ni newydd cael barbeciw i’r ysgol.
"Felly i sicrhau dyfodol yr ysgol, ma’ rhaid i ni codi arian a felly ma’ hwnna’n gallu bod yn her hefyd.
"Ni’n neud, fel llawer o weithgareddau tu fas, er enghraifft y barbeciw.
"O’dd teuluoedd miri mawr ‘di dod i hwnna, so ma’ nhw’n cael y cyfle i cwrdd â teuluoedd ni, cwrdd â’r plant a ni’n neud llawer o bethau o fewn teulu’r ysgol, o fewn y cymuned a ni’n gwahodd nhw i hwnna fel bod nhw’n teimlo’n rhan reit o’r dechre."
