Iran yn ymosod ar Bahrain a Kuwait ar ôl cyrchoedd gan yr Unol Daleithiau
Mae Iran wedi ymosod ar ganolfannau lluoedd yr Unol Daleithiau yn Bahrain a Kuwait ar ôl i’r Unol Daleithiau fomio dinasoedd yn Iran am yr ail noson yn olynol.
Mae’r Unol Daleithiau yn dweud eu bod wedi taro 90 o dargedau ar ail ddiwrnod o ymosodiadau ar Iran. Mae yna adroddiadau am ffrwydradau mewn dinasoedd yn Iran ar hyd Culfor Hormuz.
Daw hyn wedi i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ddweud ddydd Llun fod y cadoediad ag Iran “ar ben”.
Fis diwethaf, fe lofnododd Tehran a Washington femorandwm 14 tudalen, gyda'r nod o ymestyn y cadoediad a dod â'r gwrthdaro i ben.
Ond yn sgil ymosodiadau ar danceri olew yng Nghulfor Hormuz yn gynharach yn yr wythnos, mae’r ddwy wlad wedi bod yn targedu safleoedd ei gilydd unwaith eto.
Fe wnaeth ymosodiadau’r Unol Daleithiau daro pontydd, dociau a meysydd awyr, gan ladd un person yn Iranshahr a thri yn Ahvaz. Fe wnaeth shrapnel hefyd daro ysbyty yn Chahbahar.
Mae Gwarchodlu’r Chwyldro Islamaidd (IRGC) wedi ceisio dial am ymosodiadau’r Unol Daleithiau drwy dargedu Camp Arifjan ac Ali Al Salem yn Kuwait, yn ogystal â Juffair a chanolfannau Sheikh Isa yn Bahrain.
Mae Trump yn dweud y bydd yr Unol Daleithiau yn taro Iran yn galetach fyth, ac wedi mynnu bod Tehran eisiau “gwneud cytundeb yn ofnadwy”.
Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi bod yn siarad o Air Force One, sydd newydd lanio yn ôl yn Maryland ar ôl taith i uwchgynhadledd Nato yn Ankara yn Nhwrci.
Mae Trump yn dweud bod Iran “eisiau gwneud cytundeb yn ofnadwy”.
Mae Llefarydd Senedd Iran, Mohammad Bagher Ghalibaf, wedi dweud y bydd Tehran yn taro’n ôl.
Dywedodd nad yw America “wedi dysgu o hyd nad yw bwlio a thorri addewidion bellach yn ddi-gost”.
Llun: Delweddau Centcom o ymosodiadau ar Iran dros nos.
