Rhybudd y bydd sychder yr haf yn taro ffermwyr a siopwyr yng Nghymru

Dafydd Davies

Mae yna rybuddion y bydd y sychder dros yr haf yn effeithio ar y bwydydd sydd ar gael i bobl yn y siopau dros y misoedd nesaf.

Mae’r tywydd poeth a’r diffyg glaw dros yr haf wedi creu nifer o broblemau i ffermwyr, gan gael effaith sylweddol ar gnydau.

Yn ôl melin drafod newid hinsawdd yr ECIU, mae ffermwyr tatws yn benodol yn wynebu colledion o hyd at £169m eleni o ganlyniad i’r sychder.

Un o’r rheini sydd wedi eu heffeithio yw Dafi Davies o Fferm Rosedew yn Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg. Mae’n tyfu tatws ar hanner cant o erwau o dir.

Mae’n rhagweld y gallai gynaeafu tua hanner cymaint o datws â mewn blynyddoedd blaenorol.

Mae’r sychder wedi cael effaith ar lysiau a ffrwythau eraill hefyd, ac mae pryderon y bydd llai o gynnyrch yn arwain at brisiau uwch eleni.

“Nôl yn Ebrill pan blanion ni nhw, roedd e’n edrych yn addawol iawn,” meddai Dafi Davies wrth raglen Ffermio.

“A gaethon ni tipyn bach o glaw am ddou, tri wythnos.

“Roedd popeth wedi dechrau tyfu a glasu yn gyflym iawn. A wedyn, yn amlwg, stopodd y glaw a oedd dim byd i lenwi’r tatws ’na.”

Image
Tatws llai eleni
Mae'r tatws yn sylweddol llai eleni

Dywedodd fod tatws eleni wedi tyfu yn dipyn llai o faint o ganlyniad.

“Y gwahaniaeth yw dau gant pump deg punt pob bocs neu dri deg punt y bocs os mae’n mynd i’r gwartheg,” meddai.

“’Na beth yw, beth yw e werth i ni. Mae jyst rhaid ni gobeithio bod blwyddyn nesa’n mynd i fod mwy ffafriol gyda’r tywydd.”

Ychwanegodd: “Mae’n mor anodd i ddyfalu beth yw’r patrymau tywydd, ti ’mod.

“Fel ti’n gweud, roedd e mor addawol i ddechra’, a wedyn ti, ti’n biti bod yn meddwl be sy’n mynd i fynd yn wrong eleni. A wedyn, wrth gwrs, nath e.”

Image
Carwyn Graves
Carwyn Graves

‘Sychder yn Sbaen’

Dywedodd yr hanesydd bwyd, Carwyn Graves, fod eleni wedi bod yn flwyddyn “mor anarferol”.

O ganlyniad, “bydd yr ansawdd i lawr, bydd y pris lan a bydd llai ar gael”.

“A mae llawer iawn, iawn o lysiau, ch’wybod, ar draws popeth rydyn ni’n bwyta wedi cael eu effeithio yn eitha’ negyddol, a dweud y gwir.

“Ambell i beth ’di neud yn iawn. So bydden ni’n siarad am fefus, a mae’r tymor mefus yn hirach eleni na fel arfer, a bydd mefus yn y siopau mewn i fis Hydref o Brydain.

“Mae pethau fel tomatos ddim wedi cael eu effeithio’n negyddol, ond llawer iawn o bethau, wrth gwrs, tato, ond hefyd pethau fel brocoli.

“O’n i’n clywed am fferm y bore ’ma lle oedd naw deg y cant o’u cnwd broccoli wedi colli oherwydd y sychder.

“So llawer iawn o lysiau gwyrdd yna ’dan ni’n dibynnu arnyn nhw. Bydd yr ansawdd i lawr, bydd y pris lan a bydd llai ar gael.

“A, a rhan o’r stori fan hyn, ym, sydd falle’n arwydd, yn anffodus, o’r hyn sydd i ddod yw taw nid jyst Prydain sydd ’di cael effeithio gan yr amodau eleni, ond ar draws Ewrop ac a dweud y gwir, gogledd America a rhannau eraill o’r byd hefyd.

“Eleni mae ’di bod yn heriol i’r rhan fwyaf o’r gwledydd rydyn ni’n prynu wrthyn nhw. So mi fydd stocs yna, ond falle ddim yn yr un ffordd ag ydyn ni’n arfer ag e.”

Bydd yn rhaid i bobl newid y ffordd maen nhw’n siopa o ganlyniad, meddai.

“Dyna fyddwn ni yn gweld yn gynyddol. Mae ’na arwyddion o hynny’n dechra’ dod yn barod, a dweud y gwir, yn enwedig gyda’r esgid yn gwasgu ar lawer ohonon ni.”

Fe allai newid hinsawdd yng Nghymru arwain at dyfu mathau gwahanol o lysiau a ffrwythau, meddai.

“Swn i’n meddwl deg, ugain mlynedd yn ôl, bydde ’di bod yn glir iawn bod pobl yn gweud, ‘Wel, beth yw’r pwynt neud hynny yn Sir Gâr? Allwn ni’m cystadlu yn erbyn Sbaen’,” meddai.

“Wel, sychder yn Sbaen erbyn hyn yn llawer gwaeth na dim yr ydyn ni wedi gweld.

“Wedyn mae hwnna yn creu potensial dim jyst ffrwd incwm, er bod hynny’n bwysig, ond hefyd modd i ni wirioneddol cymryd yr angen i fod yn hunan-gynhaliol llawer mwy o ddifri.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.