'Rhwystrau parhaus' i rai myfyrwyr wrth gael mynediad at wasanaethau Cymraeg
Mae rhai myfyrwyr yn wynebu "rhwystrau parhaus" wrth gael mynediad at rai gwasanaethau Cymraeg, yn ôl adroddiad newydd gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Mae adroddiad newydd sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Llun gan swyddfa'r Comisiynydd yn rhoi darlun "gymysg" o’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr ar draws Cymru ar hyn o bryd.
Er bod enghreifftiau clir o arferion da ar draws y sector, mae yna hefyd anghysondeb parhaus rhwng sefydliadau, adrannau a champysau o ran profiad myfyrwyr o’r Gymraeg.
Mae'r adroddiad yn nodi bod rhai myfyrwyr yn wynebu rhwystrau parhaus wrth gyflwyno gwaith yn Gymraeg, gan gynnwys diffyg adnoddau Cymraeg, anawsterau trefnu marcio, oedi wrth dderbyn adborth, a diffyg eglurder ynghylch trefniadau arholiadau.
Er bod rhai myfyrwyr – yn enwedig mewn addysg uwch – yn adrodd profiadau cadarnhaol o fyw gyda siaradwyr Cymraeg eraill, mae nifer sylweddol
yn nodi eu bod naill ai heb gael cynnig llety Cymraeg o gwbl, neu wedi cael cynnig nad oedd wedi’i wireddu.
O ran derbyn tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg, mar darpariaeth "llai cyson" yn y sector addysg bellach, gyda llawer o fyfyrwyr naill ai heb gael cynnig neu heb fod yn ymwybodol o’u hawl i dderbyn cefnogaeth drwy’r Gymraeg.
Fe gasglwyd ymatebion gan dros 1,500 o fyfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch er mwyn paratoi'r adroddiad.
Yn ôl swyddfa'r Comisiynydd, bwriad yr ymchwil oedd ystyried y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg i fyfyrwyr mewn pedwar maes penodol, sef:
- Gallu myfyrwyr i gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg,
- Dewis o lety gyda siaradwyr Cymraeg,
- Cynnig a dyrannu tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg
- Y gallu i gael mynediad at wasanaethau llesiant drwy'r Gymraeg.
Mewn datganiad, fe ddywedodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg: "Gan fod profiadau plant a phobl ifanc wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn thema benodol yng Nghynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg, mae’r gwaith ymchwil hwn yn gyfraniad pwysig at ddeall sut mae gwasanaethau Cymraeg yn cael eu darparu ac yn gweithredu’n ymarferol i fyfyrwyr."
'Gwasanaethau ddim yn gyson'
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn, bod angen "cydnabod pa mor allweddol yw rôl colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch" wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg.
“Yr hyn mae’r gwaith ymchwil hwn yn ei gynnig i ni yw gwell dealltwriaeth o brofiad uniongyrchol myfyrwyr o’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddynt, gan ganolbwyntio ar feysydd lle mae dyletswyddau penodol wedi’u gosod drwy safonau’r Gymraeg, ond hefyd ar y diwylliant ehangach sy’n dylanwadu ar ddefnydd o’r iaith o ddydd i ddydd," meddai.
Er fod swyddfa'r comisiynydd yn gweld "enghreifftiau cryf o arferion da yn galonogol", nid yw’r un profiad yn "gyson ar draws y sector", ac o ganlyniad, rydym wedi nodi camau gwella clir, a byddwn yn gofyn i’r sefydliadau perthnasol fynd i’r afael â nhw," meddai.
Rhannwyd holiaduron gyda myfyrwyr sy’n astudio mewn coleg neu brifysgol yng Nghymru, a chynhaliwyd sesiynau trafod gyda grwpiau llai er mwyn cael darlun cyflawn o'r gwasanaethau a gynigir.
O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae pum cam gwella penodol wedi cael eu nodi, sef:
- Safoni trefniadau asesu yn Gymraeg
- Cynnig y Gymraeg yn rhagweithiol, nid dim ond fel opsiwn
- Cau’r bylchau sgiliau Cymraeg yn y gweithlu
- Cryfhau’r profiad Cymraeg sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn
- Sicrhau cysondeb drwy hunanasesu a monitro cadarn
Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi’n swyddogol ar stondin Comisiynydd y Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Môn fore Llun, 25 Mai, am 11:00